Sharon Morgan

Daw Sharon yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth ac mae hi wedi byw ar fferm ger Llandeilo gyda’i gwr Richard ers dros 30 mlynedd. Mae ganddynt 3 o blant sy’n oedolion. Mae gan Sharon radd mewn Llyfrgellyddiaeth ac Addysg o Brifysgol Aberystwyth ac mae hi wedi gweithio ym maes gofal cwsmer ers nifer o flynyddoedd.

Mae rôl Sharon yn cynnwys gwaith gweinyddol, gofal cwsmer a darparu cefnogaeth i’r tîm cyfan. Mae Sharon yn gefnogwr brwd o’r ‘Swans’ ac wedi dal tocyn tymor ers yr 1980au; mae hi’n gwylio pob gêm, pan dyw hi ddim yn brysur ar y fferm. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Sharon yn gyfrifol am bolisi dwyieithrwydd y cwmni.

Sharon Morgan

Rheolwr Swyddfa