Tania Rowlands

Ymunodd Tania ag Agri Advisor ym mis Ionawr 2024 fel Cyfreithiwr Cyswllt ac mae’n bennaeth ar ein swyddfa yng Ngaerwen, Ynys Môn. Cymhwysodd fel Cyfreithiwr yn 2017 ar ôl cwblhau ei gradd Israddedig ac yna’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn Lerpwl.

Mae hi wedi gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol ers dros 10 mlynedd ac wedi treulio ei gyrfa ym Mae Colwyn, Conwy. Mae’n arbenigo mewn materion eiddo, gan ymgymryd â gwaith preswyl, masnachol, amaethyddol a datblygu.

Yn ei hamser hamdden, mae Tania yn arddwr brwd ac yn hoffi treulio cymaint o amser yn y tŷ gwydr a’r ardd gymaint ag y gall. Mae hi’n mwynhau teithio ac mae hi wrth ei bodd yn ticio’r gwledydd mae hi wedi ymweld â hwy bant o’i rhestr. Mae hi hefyd yn mwynhau teithiau cerdded hir a chadw’n heini.

Mae Tania yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Tania Rowlands

Cyfreithwraig Cyswllt