Covid-19 – Grantiau Cychwyn

  • Posted

Bydd y grant cychwyn ar gyfer busnesau newydd yn cefnogi busnesau yng Nghymru, gyda £2,500 yr un. Bydd hyn yn cynorthwyo busnesau a sefydlwyd rhwng Ebrill 1af 2019 a Mawrth 1af 2020.

I fod yn gymwys ar gyfer y grant cychwyn busnes, rhaid i fusnesau:

  • Fod heb dderbyn arian o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru na’r grant ardrethi

annomestig;

  • Rhaid i’r busnes fod wedi’i sefydlu rhwng Ebrill 1af 2019 a Mawrth 1af 2020;
  • Heb fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth Llywodraeth y DU;
  • Bod a llai na £50,000 o drosiant bob blwyddyn;
  • Rhaid eu bod wedi profi gostyngiad mewn trosiant o fwy na 50% rhwng Ebrill a Mehefin 2020

Roedd ceisiadau am y grant cychwyn yn agor ar ddydd Llun 29ain Mehefin 2020 a bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o’r uchod mewn proses ymgeisio dwy dudalen.

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch gan ein tîm neu gymorth gyda’r broses ymgeisio, cysylltwch â’n Cyfreithiwr Cyflogaeth Sasha Brine drwy e-bost sasha@agriadvisor.co.uk  neu ffoniwch 07475 069698.