Newidiadau Treth – Rhybudd Pellach

  • Posted

Yn gynharach eleni, fe amlygon ni’r newidiadau posib sydd wrth law o ran Treth Etifeddiant yn dilyn cyflwyno dau adroddiad i’r Llywodraeth (un gan grŵp hollbleidiol seneddol a’r llall gan y Swyddfa Symleiddiad Treth).

 

Cyhoeddwyd adroddiad pellach gan y Swyddfa Symleiddiad Treth ar 11eg o Dachwedd 2020, y tro hwn yn ffocysu ar Dreth Enillion Cyfalaf.  Mae hwn yn dilyn cais gan y Canghellor yng Ngorffennaf 2020 i edrych ar faterion gweinyddol a thechnegol o ran Treth Enillion Cyfalaf ac ymgynghoriad gyhoeddus.

 

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth sy’n daladwy pan fydd unigolyn yn gwneud gwarediad, naill ai trwy werthu neu rhoi ased. Gwerth yr enillion a wnaed ar yr ased sy’n daladwy yn hytrach na’ gwir werth yr ased, h.y. y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng pan gafodd yr unigolyn yr ased o’i gymharu gyda’i werth wrth ei waredu.

Mae’r adroddiad diweddaraf yn hawlio bod regîm presennol Treth Enillion Cyfalaf yn wrth-reddfol ac yn creu cymhellion “rhyfedd”. Ystyrir y Rhyddhad Blynyddol presennol o ran Treth Enillion Cyfalaf yn weddol uchel (ar hyn o bryd yn £12,300 bob blwyddyn) ac mae’r Swyddfa Symleiddiad Treth yn argymell archwilio lleihad yn y rhyddhad hwn. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi gall yr anghysondebau rhwng Treth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm annog trethdalwyr i drefnu eu materion fel bod ychydig o incwm yn cael ei drin fel enillion cyfalaf, a all felly bod yn fwy manteisiol o ran y treth a delir.

 

Casgliad pellach a gofnodwyd yn yr adroddiad yw bod y rheolau Treth Enillion Cyfalaf presennol yn annog perchnogion busnes i drosglwyddo’r busnes adeg marwolaeth yn hytrach nag yn ystod eu bywyd, o ganlyniad i’r codiad sydd ar gael mewn Treth Enillion Cyfalaf adeg marwolaeth. Mae’r Swyddfa Symleiddiad Treth yn argymell gwaredu’r codiad gyda’r buddiolwr yn cymryd cost sylfaenol yr unigolyn sydd wedi marw ymlaen. Maent hefyd yn argymell ailosod y Rhyddhad Gwarediad Ased Busnes (neu’r Rhyddhad Entrepreneuriaid) gyda rhyddhad sydd wedi ffocysu’n fwy ar ymddeoliad. Bydd adroddiad pellach yn dilyn yn gynnar y flwyddyn nesaf a fydd yn archwilio materion technegol a gweinyddol allweddol o ran Treth Enillion Cyfalaf.

 

Er bod yr adroddiad yn hawlio mai dim ond ychydig o bobl sydd wir yn talu’r Dreth Enillion Cyfalaf o ganlyniad i’r rhyddhadau sydd ar gael, gall perchnogion busnes gael eu heffeithio os yw’r cynigion yn cael eu mabwysiadu. O ran amaethyddiaeth, bydd y brif effaith o ganlyniad i unrhyw newidiadau a wnaed i’r Rhyddhad Dal Drosodd. Mae’r Rhyddhad Dal Drosodd yn dileu’r taliad Treth Enillion Cyfalaf ar ased busnes, gan olygu nad oes Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy adeg y trosglwyddiad os oes etholiad dal drosodd yn cael ei wneud.  Bydd y taliad ond yn daladwy os yw’r person sy’n derbyn yr ased yna’n penderfynu ei waredu, a bydd y dreth sy’n daladwy yn seiliedig ar y cynnydd mewn gwerth rhwng gwerth sylfaen y trosglwyddwr, a gwerth yr ased pan mae’r person sydd wedi derbyn yr ased hynny yn ei waredu. Mae’r rhyddhad hwn yn galluogi ffermydd i gael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf yn ystod bywyd yn effeithiol, heb i’r Dreth Enillion Cyfalaf fod yn daladwy adeg y trosglwyddiad.

 

Mae’r adroddiad diweddaraf yn amcangyfrif y gall £14bn gael ei godi pe bai’r rhyddhadau’n cael eu gwaredu a chyfraddau’r Dreth Enillion Cyfalaf yn cael eu dyblu. Gan ystyried y gwariant ddigynsail presennol o ganlyniad i Covid-19, bydd y Canghellor yn ystyried yr argymhellion hyn yn ofalus, er iddo ddweud ym mis Medi na fydd yna “sioe arswyd o godiadau diddiwedd”.

 

Yng ngolau’r adroddiad diweddaraf hyn yngyd â’r rhybuddion blaenorol, mae’n deg tybio y bydd newidiadau cyn hir. Ond mae yna ansicrwydd o ran beth fydd y newidiadau hynny. Rydym felly’n argymell caffael cyngor cyn gynted â phosib ac adolygu’ch cynlluniau olyniaeth presennol er mwyn sicrhau bod eich asedau’n cael eu trosglwyddo yn y modd fwyaf treth-effeithiol.

 

Am gyngor a gwybodaeth bellach, cysylltwch â Manon Williams ar 01239 710942.