Manon Williams

Ymunodd Manon ag Agri Advisor yn llawn amser ym mis Mai 2013 wedi cyfnod o weithio’n rhan amser ers mis Tachwedd 2012. Daeth yn bartner ym mis Mai 2019 a’n Berchennog Busnes ym mis Ionawr 2020. Astudiodd Manon Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ond ers ymuno ag Agri Advisor mae hi wedi dychwelyd at ei astudiaethau er mwyn dilyn gyrfa yn y gyfraith. Fe gymhwysodd fel cyfreithiwr yn 2017.

Ganwyd a magwyd Manon ar fferm draddodiadol yng Nghil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin ac mae hi nawr yn byw yng Nghapel Iwan ac felly gall weithio gyda chleientiaid ar draws de orllewin Cymru.

Yn ystod ei chyfnod gydag Agri Advisor mae Manon wedi ennill profiad mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol ac mae’n gyfreithwraig amaethyddol alluog gyda phrofiad penodol mewn Cynllunio Olyniaeth ac Ystâd, tenantiaethau Deddf Daliadau Amaethyddol a thenantiaethau Busnes Ffermio. Daeth Manon yn Gymrodor o’r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol yn 2017. Mae Manon yn rhugl yn y Gymraeg.

Manon Williams

Partner

Manon Williams's news