Mesurau newydd y Tribiwnlys Gyflogaeth 2021- 2022

  • Posted

Mae’r Tribiwnlys Gyflogaeth wedi cyhoeddi map ffordd ar gyfer 2021-2022 sy’n amlinellu’r camau bydd yn cael eu cymryd wrth i gyfyngiadau Covid-19 gychwyn llacio.

Mae’r TG wedi cyhoeddi bydd y mwyafrif o wrandawiadau rhagarweiniol , a rhai gwrandawiadau terfynol, yn parhau i gael eu cynnal yn rhithiol trwy ddefnydd y platfform fidio cwmwl. Mae gan y TG ôl-groniad mawr ac mae rhai hawliadau’n wynebu oedi hir tan iddyn nhw gael eu clywed.   Trwy restru achosion ar gyfer gwrandawiadau rhithiol, gobeithia’r TG y bydd hyn yn helpu lleihau’r ôl-groniad, yn ogystal â chadw’r rhai sydd angen mynychu’r Llys yn ddiogel.

Mae gwrandawiadau rhithiol yn gwneud hi’n haws i Hawlwyr, Ymatebwyr a Thystion fynychu’r Llys a’n lleihau’r angen i achosion gael eu hail-restru. Disgwylir y bydd gwrandawiadau rhithiol yn cael eu defnyddio’n ddiofyn dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y TG hefyd yn caniatáu i Farnwyr wrando ar achosion, waeth beth fo’r rhanbarth sydd wedi penodi iddynt o Ebrill 2021 er mwyn hwyluso delio gyda llwythi gwaith. Mae hwn yn ychwanegiad i’r system rheoli achosion sydd i fod dod i rym erbyn mis Mai 2021. Gobeithir y bydd y system newydd hyn yn gwella effeithiolrwydd gweithio’n electronig a gwrandawiadau rhithiol.

Cyngor Pellach

Os hoffech unrhyw gyngor am unrhyw fater Cyfraith Gyflogaeth, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.