Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

  • Posted

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (7fed – 13eg Chwefror) ac yma yn Agri Advisor rydym bob amser yn chwilio am dalent newydd, sy’n awyddus i ddysgu a gwella eu  sgiliau.

Mae Wythnos Prentisiaethau yn amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau cyfan i hyrwyddo prentisiaethau a’r effaith gadarnhaol y maent yn cael ledled Cymru.

Mae Nicole Bishop yn un o’n prentisiaid sy’n gweithio tuag at NVQ L3 mewn Busnes a Gweinyddu.

“Dwi wedi gweld agweddau o fy mhrentisiaeth yn bleserus iawn, gan ei fod wedi fy annog i wella fy sgiliau. A minnau erioed wedi gweithio mewn amgylchedd swyddfa o’r blaen, gallaf ddweud bod cymryd y brentisiaeth hon yn sicr wedi gwella fy ngwybodaeth a’m hyder, gan fy mod yn gallu gweithio’n ymarferol wrth ddysgu.

Rwy’n dal i ddysgu rhywbeth newydd bob amser, wrth weithio fy ffordd tuag at gymhwyster. Ers ymuno ag Agri Advisor, rwyf wedi gweld bod mwy i rôl cynorthwyydd gweinyddol nag yr oeddwn wedi’i feddwl o’r blaen a dwi’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth bob amser wrth ddysgu. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dod yn brentis i fynd amdani, mae’n brofiad gwych!”