Noson Lawen – Codi arian dros Diabetes UK

  • Posted

Yn ystod yr wythnos diwethaf, er mwyn cyd-daro gydag wythnos ymwybyddiaeth Diabetes, rydym wedi bod yn codi arian tuag at Diabetes UK, sef ein helusen ddewisedig ar gyfer 2020. Cafodd yr elusen hon ei dewis gan fod rhai o’n haelodau staff a’u teulu agos wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan Ddiabetes math 1 yn ogystal â rhai o’n cleientiaid a chysylltiadau sydd hefyd wedi’u heffeithio gan Ddiabetes math 1 a math 2.

Credwn ei bod hi’n bwysig codi ymwybyddiaeth am y salwch yn ogystal â chodi arian ar gyfer y gwaith pwysig y mae Diabetes UK yn gwneud dros y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio. Roeddem ni hefyd yn credu y gall ychydig o adloniant gan ein staff talentog eich denu i gyfrannu tuag at yr elusen werthfawr hon. Rydym wedi cael llawer o sbri yn creu’r fideos hyn ond mae’n siŵr eich bod chi’n cytuno na ddylwn ni adael ein swyddi er mwyn camu i fyd perfformio! Cymrwch olwg – gobeithio y bydd yn gwneud i chi wenu! Os hoffwch chi gyfrannu, gallwch wneud ar ein tudalen ‘Just Giving’.

Côr Staff a’r Teulu:

Unawd Sacsoffon gan Hannah Parry:

Deuawd Telyn a Phiano gan Rachel Phillips a Manon Williams:

Meimio i Gerddoriaeth – ‘Ni’n Beilo Nawr’ gan y Welsh Whisperer:

Adrodd gan Katie Davies: