Ein Logo Newydd

  • Posted

Rydym yn falch o gyflwyno ein logo newydd sy’n dynodi’r ffaith bod Agri Advisor yn dathlu 10 mlynedd o fasnachu eleni. Byddwn yn defnyddio’r logo trwy gydol y flwyddyn fel rhan o’n dathliadau ac i gydnabod y garreg filltir hon.

Cychwynnodd Agri Advisor ym mis Hydref 2011, bryd hynny o ystafell wely sbâr yn Henllan, Pumsaint. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, erbyn hyn yn meddiannu pum swyddfa ar draws Cymru a Swydd Henffordd, a chyda cynlluniau am ddatblygiad ac ehangiad pellach yn y dyfodol agos (cadwch lygad allan!). Mae gennym ni 30 aelod o staff gwych a gweithgar, a braint yw hi i fod yn rhan o’r twf ac arloesiad hynny.

Dywed Dr Nerys Llewelyn Jones, Sylfaenydd a Phennaeth presennol y cwmni “Dwi’n hynod falch o sut mae Agri Advisor wedi datblygu yn ei 10 mlynedd gyntaf. Mae hyn o ganlyniad i’r gefnogaeth a ddangoswyd gan y sector amaethyddol tuag at y fenter wrth iddo dyfu, a’r cleientiaid sydd wedi ein cefnogi ni, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt oll.”

Rydym yn mawr obeithio y byddwn yn gallu dathlu’r achlysur yn iawn gyda chi yn yr Hydref, ond yn y cyfamser, y logo yw’r cyntaf o’n hymdrechion i ddynodi’r garreg filltir bwysig hon yn hanes y busnes.