Elusen y Flwyddyn 2021 – Farm Safety Foundation

  • Posted

Mae Agri Advisor yn falch o gyhoeddi mai ein elusen ar gyfer 2021 yw’r  ‘Farm Safety Foundation (Yellow Wellies)’.

Mae’r ‘Farm Safety Foundation’ yn elusen sydd wedi ennill sawl gwobr wrth godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm ac iechyd meddwl ffermwyr ifanc a’r diwydiant llydanach, sydd â’r nod o leihau’r nifer o farwolaethau gellir eu hosgoi ar ein ffermydd. Amaethyddiaeth sydd â’r record ddiogelwch gwaethaf allan o’r holl alwedigaethau yn y DU. Am ddiwydiant sydd mor hanfodol i’r economi, mae angen i’r ystadegyn hyn newid, a dyma beth mae’r ‘Farm Safety Foundation’ yn anelu at wneud. Maen nhw’n cydweithio’n agos gyda phartneriaid o fewn y diwydiant i ymgysylltu, addysgu a chyfathrebu negeseuon ddiogelwch fferm cryf a dealladwy. Maent hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd cenedlaethol trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys; ‘Yellow Wellies – Who Would Fill Your Boots?’, Wythnos Diogelwch y Fferm a ‘Mind Your Head’. Mae’r holl ymgyrchoedd yn taclo’r stigma sy’n amgylchynu cymryd risg, sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn wydn ac wedi’u harfogi gyda strategaethau clyfar a sgiliau penodol i fyw’n well a ffermio’n well.

Mae holl staff Agri Advisor yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd hyn a chefnogi gwaith y Sefydliad. Tra’i bod hi’n edrych yn debygol y bydd y mwyafrif o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn rhithiol am y dyfodol agos oleuaf, byddwn yn hyrwyddo’r Sefydliad ar bob cyfle ac yn cydweithio gyda nhw trwy gydol y flwyddyn nesaf.  Byddwn hefyd yn ceisio codi ychydig o arian sy’n angenrheidiol i’r elusen. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith.

Dywedodd Nerys Llewelyn Jones, Rheolwr Agri Advisor: “Rydym yn falch iawn o gynnig cymorth i’r ‘Farm Safety Foundation (Yellow Wellies)’, sy’n gwneud gwaith gwych wrth godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y fferm ac iechyd meddwl o fewn y Diwydiant Amaethyddol. Mae’n dda gwybod bod pob un geiniog byddwn ni’n codi yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi eu hymdrechion a byddwn ni’n hyrwyddo eu gwaith ar bob cyfle.”

Dywedodd Stephanie Berkley, Rheolwr y ‘Farm Safety Foundation’: ‘Rydym yn falch a ddiymhongar iawn bod Agri Advisor wedi ein dewis ni fel eu helusen am eleni. Mae’r ‘Farm Safety Foundation’ yn gweithio bob dydd ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y fferm ac iechyd meddwl gwael, yn ogystal â darparu hyfforddiant i fyfyrwyr amaeth, aelodau’r CFfI ac ystod o gynulleidfaoedd yn y diwydiant amaethyddol ynghylch cymryd risg a gofalu am eu hiechyd meddwl. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil i agweddau ac ymddygiad yn ogystal â darparu ymgyrchoedd megis ‘Mind Your Head’ ac Wythnos Diogelwch y Fferm. Rydym ni’n elusen fach ond mae gennym ni uchelgeisiau MAWR felly mae cymorth fel hyn o fewn y diwydiant yn hollol amhrisiadwy ac yn cael eu croesawu’n llwyr.’

Rydym wedi dechrau cefnogi’r elusen a chodi ymwybyddiaeth drwy wisgo melyn i’r gwaith ddydd Gwener ddiwethaf. Isod gweler yr ymdrech a wnaed gan rhai o’n staff.