Elusen y Flwyddyn 2022 – Tŷ Hafan

  • Posted

Mae Agri Advisor yn falch o gyhoeddi mai ein Elusen ar gyfer 2022 yw Tŷ Hafan!

Tŷ Hafan yw un o brif elusennau gofal lliniarol pediatrig y DU ac mae’n cynnig gofal i blant a chymorth i’w teuluoedd, ledled Cymru. Maent yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd yn yr hosbis, y gymuned ac yn eu cartrefi er mwyn iddynt allu gwneud y gorau o’r amser sydd ganddynt ar ôl gyda’u gilydd.

Mae holl staff Agri Advisor yn gyffrous i fod yn cefnogi elusen mor anhygoel ac rydym yn brysur yn trafod syniadau a heriau codi arian ar gyfer yr achos teilwng hwn. Rydym yn gobeithio eleni y gallwn fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb a dod at ein gilydd ar ôl cyfnod mor hir o fod ar wahân.

Dywedodd Nerys Llewelyn Jones, Rheolwr Agri Advisor: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn fel busnes at gefnogi’r elusen hynod bwysig hon yn 2022. Mae’r elusen wedi cael ei dewis gan ein staff fel yr un yr hoffent ei chefnogi ac rydym yn gobeithio codi arian ac ymwybyddiaeth trwy ystod o weithgareddau yn 2022.”

Dywedodd Paula Langston, Pennaeth Codi Arian ac Ymgysylltu â’r Gymuned Tŷ Hafan, ‘Am gyfle gwych i ni gydweithio ag Agri Advisor fel eu helusen o ddewis, rydym wrth ein bodd bod cymaint o’r staff wedi pleidleisio dros Dŷ Hafan, a gyda’n gilydd gallwn barhau i gefnogi a gofalu amblant a phobl ifanc sydd â chyfyngiadau bywyd a’u teuluoedd, yn ein hosbis ac yn eich cymuned leol‘.