Profiad Gwaith Rhithiol 2022

  • Posted

Yn dilyn y pandemig, mae caffael profiad gwaith wedi bod hyd yn oed yn anoddach. Gan ein bod yn ystyried profiad gwaith cyfreithiol yn hynod bwysig ar gyfer datblygiad personol graddedigion y gyfraith, rydym ni’n ail-lansio ein Profiad Gwaith Rhithiol yn 2022 i sicrhau bod math brofiadau ar gael o hyd a’n hygyrch i ystod eang o bobl ifanc.

Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Myfyriwr Trydedd Flwyddyn y Gyfraith
  • Myfyriwr GDL
  • Myfyriwr LPC
  • Paragyfreithiowr
  • Prentis Cyfreithiol

Gallwn gynnig 8 safle i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa ym myd y gyfraith, neu a hoffai ennill gwybodaeth wrth ymgymryd â gwaith cyfreithiol ‘go iawn’ a deall y prosesau perthnasol. Bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn cael Mentor o fewn y cwmni a bydd gofyn iddynt gwblhau tasgau cyfreithiol sy’n alinio gyda’r math o waith rydym ni’n gwneud yma yn Agri Advisor. Bydd adborth yn cael ei roi ar y gwaith a gwblheir, a bydd gyda nhw’r fantais o gael eu mentora un i un gan aelodau talentog ein tîm.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif mynychiad ar ddiwedd y cyfnod profiad gwaith. Er mwyn ymgeisio, anfonwch eich llythyr eglurhaol yn manylu pam yr hoffech chi ymgymryd â’r profiad gwaith a CV at hr@agriadvisor.co.uk. Dyddiad cau’r ceisiadau yw’r 31ain o Mawrth a fydd y profiad gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod mis Mehefin o gysur eich cartref!