Ysgariad Heb Fai

  • Posted

Mae darpariaethau hir disgwyliedig y ‘Divorce, Dissolution and Separation Act 2020’ yn dod i rym heddiw. Golyga hyn bod ‘ysgariad heb fai’ yn dod i rym o heddiw ymlaen a ni fydd rhaid i gyplau sy’n mynd trwy’r broses ysgaru neu ddiddymu rhoi bai ar ei gilydd neu aros tan eu bod wedi gwahanu am oleuaf 2 flynedd cyn cychwyn achos.  Tra mai’r sail am ysgariad neu ddiddymiad o hyd bydd – bod yna chwalfa anadferadwy yn y berthynas – y gofyniad o heddiw ymlaen bydd i’r partïon ffeilio datganiad o chwalfa anadferadwy. Mae’r datganiad hyn yn cyfri fel tystiolaeth bendant a ni ellir ei herio oni bai bod dilysrwydd y briodas neu’r bartneriaeth sifil yn cael ei gwestiynu, neu nad oes gan y Llys awdurdodaeth i ddelio gyda’r cais. Gellir gwneud y cais naill ai gan un parti neu ar y cyd gyda’i gilydd.

Mae yna newidiadau arall i’r broses sy’n bwysig bod yn ymwybodol ohonynt. Unwaith bydd y cais yn cael ei gyflwyno, mae yna nawr isafswm cyfnod o 20-wythnos o ddyddiad cyflwyno’r cais cyn y gall bartïon wneud cais i’r Llys am Orchymyn Amodol, a adnabyddir yn flaenorol fel y ‘Decree Nisi’.  Pwrpas y cyfnod 20-wythnos hyn yw rhoi cyfnod callio i’r partïon neu gyfnod o amser i fyfyrio a cheisio datrys unrhyw drefniadau ynghylch plant ac arian. Gellir gwneud cais am y Gorchymyn Terfynol, a adnabyddir yn flaenorol fel y ‘Decree Absolute’, ar ôl gwarantu’r Gorchymyn Amodol.

Y gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hyn yn helpu symleiddio’r broses ysgaru a diddymu gan leihau gofid chwalfa perthynas a helpu cyplau gyrraedd cytundeb cyfeillgar yn ystod beth sydd yn barod yn gyfnod anodd ac emosiynol iawn.

Am wybodaeth bellach neu gyngor, cysylltwch gyda’n tîm profiadol ar 01558 650381 neu advisor@agriadvisor.co.uk