Wythnos Cynnig Cymraeg

  • Posted

Rydym ni, yn Agri Advisor, yn falch iawn o ddathlu Wythnos Cynnig Cymraeg. Rydym yn hapus iawn i gynnig ein holl wasanaethau yn y Gymraeg neu Saesneg, boed yn sgwrs dros y ffôn, dros e-bost neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb. Rydym yn deall y gall rhai materion cyfreithiol fod yn gymhleth, ac mae gennym staff ym mhob un o’n chwe swyddfa sy’n gwbl gyfforddus yn trafod y rhain yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Diolch i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am y statws adnabyddus hwn.