Croeso i’r tîm Hannah!

  • Posted
Rydym yn gyffrous i groesawu Hannah Powell, ein Cyfreithiwr newydd.
Mae Hannah yn gweithio o’n swyddfa yn y Trallwng ac yn cynorthwyo cleientiaid yn ein tîm Cleientiaid Preifat gan arbenigo mewn gwaith profiant a chynllunio olyniaeth.
Yn ei hamser hamdden mae Hannah yn mwynhau rhedeg a chymdeithasu, mae’n byw ar fferm ddefaid a chig eidion yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru gyda’i phartner ac yn treulio llawer o’i hamser y tu allan i’r gwaith yn helpu ar y fferm.
Croeso MAWR i’r tîm!