Erthygl – Atwrneiaethau Arhosol i Busnes
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â rhoi Atwrneiaethau Arhosol (‘LPAs’) ar waith ar gyfer ein materion personol gan gynnwys Penderfyniadau Iechyd a Lles a Phenderfyniadau Ariannol, ond sawl un ohonom sydd wedi ystyried rhoi LPA Busnes ar waith i ganiatáu parhad eich busnes ffermio?
Yn debyg i’ch LPAs personol, mae creu LPA Busnes yn dirprwyo rôl perchennog y busnes i unigolion penodedig, pe bai’r perchennog busnes dan sylw yn colli gallu neu’n methu â chyflawni’r rôl yn y busnes am reswm penodol. Yna, o dan yr LPA Busnes, gallai perchennog y busnes drosglwyddo’r holl gyfrifoldeb am benderfyniadau busnes i unigolyn neu unigolion dibynadwy o’u dewis, gan roi rhywfaint o dawelwch meddwl y gall y busnes barhau i fasnachu yn y dyfodol heb broblemau.
Os ydych chi’n Unig Fasnachwr…
Mae’n annhebygol y bydd gennych endid cyfreithiol ar wahân, felly byddai LPA Busnes yn yr achos hwn yn synhwyrol iawn i alluogi eich busnes i barhau trwy freichiau unigolyn neu unigolion dibynadwy, os nad oes gennych y gallu i wneud hynny eich hun.
Os ydych chi’n Bartner mewn Partneriaeth…
Mae darpariaethau’r Cytundeb Partneriaeth ysgrifenedig yn bwysig iawn yn yr achos hwn. Dylai’r Cytundeb nodi a yw’n bosibl i rywun gymryd drosodd rôl Partner arall yn y busnes, pe bai un o’r Partneriaid yn colli gallu meddyliol. Os nad yw hyn yn ganiataol, yna efallai nad LPA Busnes yw’r opsiwn gorau. Os, fodd bynnag, nad yw’r Cytundeb Partneriaeth yn nodi dim mewn perthynas â dirprwyo, yna dylid ystyried a yw telerau’r Cytundeb Partneriaeth yn gyfreithlon o dan Ddeddf Iechyd Meddwl (Gwahaniaethu) 2013. Os yw telerau’r Cytundeb Partneriaeth yn wahaniaethol gan atal trefniaint a fyddai fel arall wedi bod yn dderbyniol, er enghraifft gan atal unrhyw fath o ddirprwyo os oes problemau gallu meddyliol, yna gellid dadlau bod y Cytundeb Partneriaeth yn wahaniaethol ac na ddylai’r telerau penodol hynny fod yn berthnasol ac o ganlyniad, gallai’r LPA Busnes ddod i rym.
Os ydych chi’n Gyfarwyddwr Cwmni…
Yn y sefyllfa hon, mae angen ystyried Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni mewn perthynas â dirprwyo. Mae rhai o’r Erthyglau safonol (Erthygl 5(1) er enghraifft), yn caniatáu dirprwyo sy’n cynnwys trwy LPA Busnes. Fodd bynnag, mae Erthygl safonol 18 yn atal person rhag bod yn gyfarwyddwr yn awtomatig os yw’r person hwnnw wedi’i ardystio’n feddygol fel un sy’n ‘anaddas yn feddyliol’ a’n debygol o aros yn y cyflwr hwnnw am fwy na 3 mis. Os na fydd Erthyglau 5 a 18 wedi’u newid, yna gellir defnyddio’r LPA Busnes ar gyfer dirprwyo, ond dim ond tra bod gan y cyfarwyddwr allu meddyliol. Byddai Erthygl 18 yn edrych i gael gwared ar y cyfarwyddwr os yw’n colli gallu meddyliol.
Cyngor Pellach
Am unrhyw gyngor pellach am gynnwys yr erthygl hon, neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi LPA personol, LPA Busnes neu Gytundeb Partneriaeth ar waith, yna cysylltwch ag aelod o dîm Cleient Preifat Agri Advisor ar advisor@agriadvisor.co.uk.
Gan Manon Thomas Cooper, Cyfreithwraig wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn Gastell Newydd Emlyn.
Erthygl wreiddiol wedi’i cyhoeddi yng Nghylchgrawn Aelodau NFU Cymru ‘Farming Wales’ ym mis Mehefin 2025. www.nfu-cymru.org.uk