Erthygl – Pum cam allweddol i’w gymryd cyn Ebrill 2026

  • Posted

Rydym bron 12 mis ymlaen o’r gyllideb yn 2024 lle cawsom ein hysbysu y byddai newidiadau dramatig yn dod i’r cyfanswm o ryddhad APR a BPR y byddem yn gallu ei dderbyn mewn cysylltiad â’n heiddo amaethyddol a’n heiddo busnes. Cyn hynny heb derfyn, mae’r rhyddhad nawr yn cynnig rhyddhad o 100% ar y £1 miliwn gyntaf o asedau cymwys a dim ond 50% o ryddhad ar asedau amaethyddol a busnes cymwys dros y swm hwn. Ym mis Gorffennaf gwelsom ddeddfwriaeth drafft y mae’r Swyddfa Refeniw yn bwriadu ei defnyddio i weithredu hyn ym mis Ebrill 2026.

Y cwestiwn nawr, gyda dim ond 6 mis ar ôl cyn i’r newidiadau arfaethedig gael eu cyflwyno, yw pa gamau allweddol y byddem yn argymell i ffermwyr roi prif flaenoriaeth iddynt rhwng nawr a hynny. Dyma ein pump uchaf:

  1. Cynnhelwch sgwrs deuluol am gynllunio olyniaeth a cheisiwch gytuno ymhlith eich gilydd ar y cytundeb penodol mewn perthynas â’r asedau. Bydd hyn wedyn yn galluogi dull strategol i drosglwyddo asedau yn y ffordd dreth fwyaf effeithlon. Mae’n annoeth i drosglwyddo asedau heb gael eglurder ynglŷn â’r cynllun cyffredinol cyfan gan y gall fod yn ddrud i gywiro’r sefyllfa’n ddiweddarach.
  2. Gwiriwch werth eich asedau gyda syrfëwr siartredig i sicrhau bod sylfaen eich cynllunio olyniaeth yn gywir. Mae’n bwysig hefyd ystyried potensial cynhyrchu incwm asedau ac nid dim ond eu gwerth cyfalaf at y dibenion cynllunio olyniaeth.Darganfyddwch a gwiriwch beth yw gwerthoedd sylfaenol eich asedau, h.y. y gwerth pan wnaethoch brynu neu pan wnaethoch etifeddu’r ased hwnnw, gan y bydd hyn yn holl bwysig mewn sgwrsion gyda’ch cyfreithiwr am drosglwyddiadau y gallech fod yn ystyried eu gwneud yn awr.
  3. Gofynnwch i’ch cyfreithiwr/cyfrifydd i ddarparu cyfrifiad IHT i chi fel y mae pethau heddiw a sut fyddai hyn yn wahanol pe bai gweithredoedd penodol fel trosglwyddiadau tir/eiddo yn digwydd.
  4. Dyluniwch eich cynllun gweithredu mewn cydweithrediad â’ch tîm ymgynghorol, yn seiliedig ar y uchod, a sicrhewch ei fod yn cael ei weithredu.

Mae’r camau gweithredu yn amrywio’n helaeth yn dibynnu ar y unigolyn a’r busnes dan sylw, ond gallai’r rhain gynnwys diweddaru Ewyllysai (neu o’r diwedd penderfynu i roi un ar waith!), diweddaru cytundebau partneriaeth, trosglwyddo asedau yn ystod bywyd neu newid y ffordd rydych chi’n berchen ar yr ased o gyd-tenantiaid i denantiaid cydradd os ydynt yn berchen arnynt ar y cyd, a newid strwythurau busnes.

Fel Aelodau Ffermwyr a Thyfwyr NFU, byddwch yn derbyn gostyngiad o 12.5% ar unrhyw gyngor a roddir gennym mewn perthynas â chynllunio olyniaeth, a gall fod yn bosibl hefyd os byddwch yn tanysgrifio i’r Cynllun Cymorth Cyfreithiol i ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio contractau a phynciau cyngor cyfreithiol i helpu gyda chostau adolygu dogfennau a chynllunio’n cyffredinol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth – advisor@agriadvisor.co.uk / 01558 650381

Erthygl gan Cathryn Brown, Cyfreithwr, wedi’i sefydlu yn swyddfa Castell Newydd Emlyn.

Erthygl wreiddiol wedi’i cyhoeddi yng Nghylchgrawn Aelodau NFU Cymru ‘Farming Wales’ ym mis Hydref 2025. www.nfu-cymru.org.uk