Erthygl – Sut i baratoi ar gyfer cyfarfod gyda’ch cyfreithiwr am gynllunio etifeddiaeth.
Mae cynllunio olyniaeth yn un o’r camau pwysicaf y gall ffermwr eu cymryd i ddiogelu dyfodol ei dir, busnes a theulu. Mae trefnu cyfarfod gyda Syrfëwr yn hanfodol i ddeall eich sefyllfa bresennol a’r camau nesaf sydd eu hangen i gyrraedd eich nod ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae paratoi ar gyfer y cyfarfod hwn yn hanfodol i wneud y defnydd gorau o gyngor proffesiynol a sicrhau trosglwyddiad llyfn eich fferm i’r genhedlaeth nesaf.
- Diffinio eich gweledigaeth a’ch nodau
Y cam cyntaf cyn trefnu cyfarfod cynllunio olyniaeth yw ystyried eich gweledigaeth a’ch nodau ar gyfer y presennol a dyfodol hirdymor eich fferm. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau megis a ydych am ymddeol neu aros yn ymwneud â’r busnes? Beth yw eich anghenion incwm yn y dyfodol? Pwy yw eich olynwyr ac a ydych chi’n gwybod beth efallai y maen nhw eisiau o’r busnes? Bydd hyn yn helpu i sicrhau eglurder ac mae’n sail gref i’ch Cyfreithiwr weithio ohoni.
- Trafodaethau Teuluol
Mae trafodaethau teuluol hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn cynllunio olyniaeth. Gall penderfyniadau am bwy fydd yn etifeddu neu’n cymryd drosodd y fferm deuluol ddylanwadu ar argaeledd rhyddhad treth ac ar sefyllfa gyffredinol treth eich stad. Er enghraifft, gall trosglwyddo’r fferm i blentyn sydd wedi bod yn gweithio’n weithgar yn y busnes gryfhau hawliadau am Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes, tra bod rhannu asedau rhwng unigolion nad ydynt yn ffermwyr yn gallu cyfyngu ar argaeledd yr un rhyddhad.
- Deall strwythur eich busnes
Un agwedd hollbwysig arall ar gynllunio olyniaeth yw deall strwythur eich busnes. Mae llawer o ffermydd yn gweithredu fel partneriaeth, masnachwr unigol neu gwmnïau cyfyngedig. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol gan fod gan bob strwythur wahanol oblygiadau treth. Er enghraifft, gall partneriaeth ganiatáu mwy o hyblygrwydd wrth rannu elw, sy’n fantais ar gyfer cynllunio olyniaeth. Mae gwybod sut mae eich busnes wedi’i strwythuro yn hanfodol wrth baratoi ar gyfer cyfarfod cynllunio olyniaeth gyda Chyfreithiwr.
- Sefydlu gwir werth eich ystâd.
Y cam nesaf yw sefydlu gwir werth eich asedau. Fel arfer mae gan ffermwyr berchnogaeth ar amrywiol eiddo, anifeiliaid byw a stoc farw, ac efallai y caiff pob un o’r rhain eu trin yn wahanol at ddibenion treth. Mae gwerthusiadau cywir yn hanfodol gan eu bod yn ffurfio sail ar gyfer cyfrifiadau treth etifeddiaeth a threth enillion cyfalaf, yn arbennig ers y newidiadau diweddar i argaeledd Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes. Yr un mor bwysig yw egluro perchnogaeth y tir a’r eiddo. Mae hyn yn golygu a ydynt wedi eu dal mewn un enw yn unig, yn cael eu dal yn gyffredin, neu efallai ar/er mwyn ymddiriedolaeth ar gyfer partneriaeth ffermio. Gall trefniadau perchnogaeth effeithio ar gymhwysedd ar gyfer cymorth, felly bydd angen i’ch Cyfreithiwr gael yr wybodaeth hon er mwyn eich cynghori yn effeithiol.
- Casglu’r gwaith papur angenrheidiol
Y rhan olaf o’r paratoi yw casglu’r papurau y bydd eich cyfreithiwr angen i’w dadansoddi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw Ewyllys presennol, Pwerau Atwrnai Parhaol, gweithredoedd eiddo a dogfennau megis y Cytundeb Partneriaeth ar gyfer eich busnes. Bydd y dogfennau hyn yn rhoi’r darlun cyflawn i’ch Cyfreithiwr o’ch sefyllfa bresennol ac yn eu galluogi i ddarparu cyngor penodol wedi’i deilwra i chi.
Gall cynllunio olyniaeth deimlo’n frawychus ond mae’n fuddsoddiad tuag at ddyfodol eich fferm a’ch teulu. Drwy ddiffinio eich nodau wrth gyd-gasglu’r holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol, byddwch yn darparu sylfaen dda i anrhydeddu eich gwaith a diogelu eich fferm a’ch tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Erthygl gan Tudur Williams, Cyfreithwr dan Hyfforddiant, yng Nghastell Newydd Emlyn.
Erthygl wreiddiol wedi’i cyhoeddi yng Nghylchgrawn Aelodau NFU Cymru ‘Farming Wales’ ym mis Ionawr 2026. www.nfu-cymru.org.uk