Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Caoilfhionn Trehy
Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9fed – 15fed o Chwefror) a hoffen daflu golwg ar y prentisiaid sydd yn gweithio gyda ni yn Agri Advisor. Mae ein prentisiaid yn gweithio tuag at gwblhau amrywiol gymwysterau tra hefyd yn gweithio yn ein Cwmni.
Yn trydydd ni’n dal lan gyda Caoilfhionn Trehy, sy’n gweithio tuag at gwblhau Prentisiaeth Paragyfreithiol CILEX Lefel 3, mae hi’n dweud:
Dechreuais fy mhrentisiaeth ym mis Hydref 2025 ac rwyf wedi canfod bod y cyfuniad o weithio mewn amgylchedd cyfreithiol ochr yn ochr ag astudio wedi bod yn werthfawr iawn, gan ei fod yn caniatáu i chi roi eich dysgu ar waith a’i gryfhau.
Rwyf yn rhan o amgylchedd sy’n annog dysgu a datblygu proffesiynol, ac rwyf yn cael fy nghefnogi gan Gyfreithwyr profiadol sydd yn werthfawr iawn i mi. Rwy’n mwynhau fy mod yn dysgu bob dydd ac mae llawer o fanteision ar lefel bersonol ac academaidd.