Elusen y Flwyddyn 2026/27

  • Posted

Rydym yn falch o gyhoeddi mai Ymchwil Canser DU bydd ein Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2026-27. Bydd llawer ohonom wedi cael ei effeithio gan Ganser mewn un ffordd neu’r llall, felly mae’r elusen hon yn bwysig iawn i bob un ohonom. Ym mis Hydref 2026 byddwn yn dathlu 15eg mlynedd ers sefydlu Agri Advisor, a gyda hyn, penderfynom ei bod yn briodol i benodi £15,000 fel ein targed codi arian eleni.

I helpu i ni gyrraedd y targed hwn mae gennym ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau codi arian wedi’u cynllunio, gan gynnwys:

  • Cinio Elusennol ac Ocsiwn
  • Her Staff 15,000km
  • Bore Coffi mewn pob un o’n swyddfeydd trwy’r flwyddyn
  • Raffl 15fed Pen-blwydd
  • A llawer mwy

Dywedodd ein Partner Rheoli, Arwyn Reed, ‘Rydym yn falch iawn i gefnogi Ymchwil Canser DU fel ein Helusen y Flwyddyn. Mae hwn yn achos sy’n cyd-daro’n bersonol â nifer fawr o’n staff a’n cleientiaid, ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn er mwyn codi arian ar gyfer yr achos haeddiannol hwn.’

“Rydym wrth ein bodd bod Agri Advisor wedi dewis cefnogi Ymchwil Canser y DU fel Elusen y Flwyddyn. Gyda thechnolegau newydd yn agor drysau i ddarganfyddiadau newydd, rydym yn byw mewn oes aur o ymchwil canser – ond gydag 1 o bob 2 o bobl wedi cael diagnosis o ganser yn eu bywyd, mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach. Bydd cefnogaeth Agri Advisor yn helpu i’n dwyn yn nes at fyd lle mae mwy o bobl yn byw bywydau hirach, gwell, yn rhydd rhag ofn canser. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad, ac edrychwn ymlaen at weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.” — Samantha Marlow, Rheolwr Perthnasoedd Ymchwil Canser y DU

Os hoffech gefnogi ein hymdrechion codi arian, gallwch gyfrannu yma:

https://fundraise.cancerresearchuk.org/unite/agri-advisor

#CancerResearchUK #AgriAdvisor #CRUK