Karen Anthony

  • Posted
Gyda thristwch mawr y rhannwn ni yn Agri Advisor y newyddion am golli ein ffrind, cydweithiwr a chyfaill parchus, Karen Anthony, a fu farw ddydd Mawrth 12fed o Fai.
 
Chwaraeodd Karen rôl sylweddol wrth siapio ethos a chyfeiriad Agri Advisor. Roedd hi’n aelod annwyl o’n tîm, ac estynnodd ei dylanwad a’i charedigrwydd ymhell y tu hwnt i’w gwaith dyddiol. Mae ei marwolaeth yn gadael bwlch anferth, ac rydym yn gwybod y bydd llawer ohonoch yn rhannu ein teimlad o golled.
 
Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae ein meddyliau gyda theulu Karen, ei ffrindiau, a phawb a oedd yn ei hadnabod. Bydd pawb y cyffwrddodd â’u bywydau hwy yn teimlo’r golled ac yn ei chofio gyda charedigrwydd.