Erthygl – Mwy Na Ffermio? Sut Mae “Amaethyddiaeth” yn Gweithio mewn Cytundebau Tenantiaeth yng Nghymru a Lloegr
Pam mae hyn yn Bwysig Nawr
Ledled Cymru a Lloegr, mae cymorth y llywodraeth yn symud tuag at dalu i ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol yn ogystal â chynhyrchu bwyd. Yn Lloegr, mae hyn drwy’r Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy, ac yng Nghymru drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Nid yw rhai o’r camau gofynnol o dan y cynlluniau yn cwympo’n drefnus o fewn ystyr traddodiadol amaethyddiaeth o fewn tenantiaeth, felly efallai y bydd angen caniatâd eich landlord cyn cymryd rhan.
Mae llawer o ffermydd hefyd yn teimlo’r pwysau o gostau yn codi a marchnadoedd anrhagweladwy felly mae dod o hyd i incwm ychwanegol wedi dod yn rhan o gadw’r busnes yn sefydlog. Gall pethau fel podiau glampio, caeau gwersylla, siopau ffermydd bychan neu groesawu ymwelwyr wneud gwahaniaeth mawr. Ond er y gall y syniadau hyn helpu’r llinell waelod, nid ydynt bob amser yn cyd-fynd yn berffaith ag ystyr amaethyddiaeth o fewn tenantiaeth, felly gall yr un cwestiynau ynglŷn â chaniatâd godi yma hefyd.
Beth mae “Amaethyddiaeth” yn ei olygu mewn Cyfraith Tenantiaeth
Ym mhwnc cyfraith tenantiaeth, mae gan “amaethyddiaeth” ystyr cyfreithiol sefydlog. Mae’n cwmpasu’r rhan fwyaf o waith ffermio – ond nid yw’n cynnwys gweithredoedd amgylcheddol neu fentrau busnes bach yn awtomatig.
Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod amaethyddiaeth yn:
“cynnwys garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth a magu a chadw anifeiliaid; defnyddio tir fel tir pori, tir glaswellt, tir coed helyg, gerddi marchnad a meithrinfeydd; a defnyddio tir ar gyfer coedwigoedd lle mae’r defnydd hwnnw’n gymorth i ffermio tir at ddibenion amaethyddol eraill.”
Mae’r diffiniad hwn yn ymddangos yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (AHA) ac yn Neddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995. Mae’n adlewyrchu darlun traddodiadol o amaethu sy’n seiliedig ar gynhyrchu, nid ar weithgareddau ehangach o ddefnydd tir.
Mewn cwpwl o achosion blaenorol:
- roedd tenant eisiau cynnal gweithgareddau fferm agored – ymweliadau ysgolion, llwybrau fferm a theithiau ar gefn tractor. Dywedodd y Llys mai busnes masnachol ar wahân oedd y gweithgareddau hynny, er eu bod yn dibynnu ar y fferm laeth. Oherwydd bod y denantiaeth yn dweud y dylai’r tir gael ei ddefnyddio “at ddibenion amaethyddol yn unig,” byddai cynnal gweithgareddau i ymwelwyr wedi torri’r cytundeb.
- ymunodd y tenant â chynllun Gwarchodaeth Amgylcheddol a rhoddodd y gorau i gynhyrchu cnydau fel rhan o hyn. Y penderfyniad yma oedd bod hyn yn erbyn hwsmonaeth dda, oherwydd nid oedd tyfu cymysgeddau blodau gwyllt ar gyfer peillwyr yn unig yn “cynhyrchiant effeithlon.” Mewn geiriau eraill, nid oedd budd amgylcheddol ar ei ben ei hun yn cyflawni’r gofyniad cyfreithiol i ffermio’r tir.
Pan fydd llysoedd yn ystyried a yw rhywbeth yn cyfri fel amaethyddiaeth, maent fel arfer yn ystyried
- beth mae eich tenantiaeth yn dweud y gallwch ddefnyddio’r tir ar ei gyfer
- a yw’r gweithgaredd yn gwasanaethu cynhyrchiant ffermio yn bennaf neu rywbeth arall
- a yw cynhyrchu bwyd neu gynhaeaf yn parhau ar y tir
Mae’r pwyntiau hyn yn bwysig oherwydd os nad yw gweithgaredd yn cwmpasu ystyr cyfreithiol ‘amaethyddiaeth‘, efallai y bydd angen caniatâd eich landlord cyn symud ymlaen.
Sut i ddatrys anghytundebau caniatâd
Os nad yw eich landlord yn cydsynio, efallai y bydd angen i chi ystyried cymrodeddu:
- Bydd y cymrodeddwr yn ystyried beth rydych chi am ei wneud, beth mae eich tenantiaeth yn ei ganiatáu, a pham y gwrthododd y landlord, ac wedyn yn penderfynu beth sy’n rhesymol ac yn deg.
- Yn Lloegr, dim ond tenantiaid o dan denantiaethau AHA ‘hen arddull’ all ddefnyddio cymrodeddu ar gyfer y math yma o anghytundebau (nid tenantiaid o dan Denantiaethau Busnes Fferm newydd).
- Yng Nghymru, gall tenantiaid AHA a thenantiaid o dan Denantiaeth Busnes Fferm ddefnyddio cymrodeddu.
Camau ymarferol i bob tenant
- Gwiriwch beth mae eich tenantiaeth yn ei ganiatáu, fel y byddwch yn gwybod eich pwynt cychwyn.
- Ystyriwch sut bydd y gweithgaredd newydd yn effeithio’r tir, yn enwedig os bydd unrhyw beth yn newid y defnydd hirdymor.
- Siaradwch â’ch landlord yn gynnar fel bod pawb yn deall yr hyn yr ydych am ei wneud. Mae cytuno ar rywbeth gyda’ch landlord bob amser yn well na gorfod cymryd unrhyw gamau pellach.
- Cofnodwch gytundebau neu wrthodiadau yn ysgrifenedig.
- Os nad ydych yn siŵr sut mae’r newid yn gweithio o fewn eich tenantiaeth, cymerwch gyngor cyn ymrwymo.
Edrych i’r Dyfodol
Mae adolygiadau o’r gyfraith sy’n ymwneud â thenantiaethau amaethyddol yn parhau, gan gynnwys a ddylai diffiniadau ehangu i gynnwys gweithredoedd amgylcheddol. Efallai y daw diwygio – ond ar hyn o bryd, mae’r rheolau presennol yn gymwys. Dylai tenantiaid gynllunio o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol a chadw llygad ar newidiadau’r dyfodol.
Nid cyngor cyfreithiol yw hwn, ond os oes angen cyngor wedi’i deilwra arnoch, gall ein tîm eich helpu, cysylltwch â Agri Advisor ar 01558 650381 neu e-bostiwch advisor@agriadvisor.co.uk.
Erthygl gan Daniel Scrase, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant gydag Agri Advisor.
Erthygl wreiddiol wedi’i chyhoeddi yng nghylchlythyr TFA Cymru i’w haelodau ym mis Mawrth / Ebrill 2026. www.tfa.org.uk.