Cyfleusterau Cynadledda

 

Llys y Llan, Pumsaint

Mae Llys y Llan yn sgubor draddodiadol sydd wedi cael ei drawsnewid i swyddfeydd Agri Advisor, wedi ei leoli ger yr A482 tuag at bentref Ffarmers. Roedd yn wreiddiol yn rhan o’r fferm yn Henllan ond erbyn hyn mae wedi ei droi i swyddfeydd a chyfleusterau cynadledda.

Os ydych yn edrych am leoliad gwledig, unigryw a heddychlon ar gyfer eich cyfarfod busnes neu ddigwyddiad cymdeithasol, yna mae Llys y Llan yn berffaith i chi. Mae ystafell ar gael i logi am gwpwl o oriau neu yn ddyddiol sy’n gallu ymgymhwyso lan i 50 o bobl.

Mae digonedd o le i barcio ar y safle, ac rydym llai na filltir o’r brif heol. Mae’r ystafell cyfarfod yn cynnig mynediad anabl. Mae hefyd yna ardal patio gyda golygfeydd prydferth o gefn gwlad a chwm Twrch. Rydym yn gallu darparu cyfleusterau paratoi Tê a Choffi fel yr hoffech.

Mae ein hystafell cyfarfod wedi ei enwi ar ôl eu defnydd gwreiddiol cyn iddo gael eu droi mewn i swyddfeydd.

Mae gwybodaeth pellach wedi’i rhestru isod:

Beudy

Defnyddir Beudy, sef Beudy Henllan gynt, fel ystafell hyfforddi a chynadledda o fewn Llys y Llan. Mae’r ystafell yn cynnig cyfleusterau arbennig ar gyfer cynnal cyfarfodydd, rhoi cyflwyniadau neu ar gyfer ddigwyddiad cymdeithasol. Mae Wi-Fi ar gael yn yr ystafell, yn ogystal â sgrîn amlgyfrwng ar gyfer cyflwyniadau. Mae seddu ar gael i hyd at 50 o bobl mewn steil cynadledda.

Beudy

Ar gyfer prisio, cysylltwch â’n swyddfa.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib