Profiad Gwaith

Mae profiad gwaith cyfreithiol yn hynod o bwysig ar gyfer datblygiad personol graddedigion y gyfraith, byddwn yn parhau â’n Rhaglen Profiad Gwaith Rhithiol i sicrhau bod cyfleoedd o’r fath ar gael o hyd ac yn hygyrch i ystod amrywiol o bobl ifanc.

I fod yn gymwys i wneud cais am ein rhaglen rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Myfyriwr y Gyfraith trydedd blwyddyn
  • Myfyriwr GDL
  • Myfyriwr LPC
  • Paragyfreithiwr
  • Prentis Cyfreithiol

Rydym yn cynnig 8 lle i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa yn y gyfraith, neu a hoffai ennill gwybodaeth wrth wneud gwaith cyfreithiol ‘go iawn’ a deall y prosesau dan sylw. Bydd Mentor yn cael ei neilltuo i ymgeiswyr llwyddiannus o fewn y cwmni a gofynnir iddynt ymgymryd â thasgau cyfreithiol sy’n cyd-fynd â’r mathau o waith a wnawn yma yn Agri Advisor. Rhoddir adborth ar y gwaith a gwblhawyd, a byddant yn cael mantais o fentora un-i-un gan aelodau dawnus o’n tîm. Cynhelir y rhaglen yn ystod mis Mehefin o gysur eich cartref eich hun!

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif presenoldeb ar ddiwedd y profiad gwaith.

Mae ein Rhaglen ar gyfer 2022 wedi’i chwblhau ac ni fyddwn yn ymgymryd â Phrofiad Gwaith pellach tan 2023. Ewch eto i’n gwefan yn gynnar yn 2023, neu dilynwch ein ffrydiau Cyfryngau Cymdeithasol i weld pa gyfleoedd cyffrous fydd ar gael.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib