Aneira Evans

Aneira yw pennaeth y tîm yn ein swyddfa ym Machynlleth, ar ôl ymuno ag Agri Advisor fel Partner yn dilyn  ymgorfforiad Cyfreithwyr Brunton & Co. ym mis Hydref 2024.

Yn ferch fferm o Ganolbarth Cymru, mae Aneira yn gyfreithiwr profiadol sy’n cynghori ar ystod eang o faterion cyfreithiol, gan gynnwys gwaith cleient preifat, gwaith eiddo, a chyfraith teulu. Mae ei phrofiad a’i harbenigedd sylweddol yn ei rhoi mewn sefyllfa fanteisiol i gynghori cleientiaid mewn ffordd gynhwysfawr a chyfannol.

Mae Aneira yn gerddor medrus ac yn ogystal â chanu’r delyn a’r piano mae hi hefyd yn soprano – sydd wedi ennill gwobrau ar lefel genedlaethol ac i’w chlywed yn aml ar lwyfan cyngherddau ledled Cymru a thu hwnt.

Yn ddarllenwr brwd, mae gan Aneira nofel wrth law bob amser ac mae hi hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

 

Aneira Evans

Partner