Arwyn Reed

Mae Arwyn, sy’n frodor o Orllewin Cymru, yn ymuno â swyddfa Agri Advisor yn Groesfaen, wedi iddo symud i Gaerdydd.

Wedi cael ei fagu ar fferm yng Nghwm Gwaun yn Sir Benfro, treuliodd ugain mlynedd fel cyfreithiwr mewn cwmni ar y stryd fawr ac mewn practis preifat ac mae ganddo gyfoeth o brofiad ac arbenigedd wrth ddelio gydag ystod o faterion gan gynnwys pob agwedd o gleient preifat a gwaith eiddo yn ogystal ag anghydfodau materion teuluol.

Mae Arwyn yn byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner a dwy o gathod. Mae’n treulio ei amser sbâr yn meddwl am yr holl waith ‘DIY’ sydd i’w wneud, ond dydy e byth yn eu cychwyn. Mae Arwyn yn rhugl yn y Gymraeg.

Arwyn Reed

Partner Rheoli