Dr Nerys Llewelyn Jones

Sefydlodd Dr Nerys Llewelyn Jones Agri Advisor yn 2011 ar y fferm deuluol ym Mhumsaint, Sir Gâr. Mae Nerys, sy’n Partner yn Agri Advisor, yn gyfreithwraig amaethyddol brofiadol sydd hefyd a gwybodaeth uniongyrchol am y diwydiant amaeth.

Wedi ennill PhD mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy a’i Weithrediad ar lefel Rhyngwladol, Ewropeaidd a Ranbarthol mae hi’n siarad yn gyson ar faterion CAP trwy’r DU ac Ewrop. Yn gymrodor o’r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol (CCA), gall Nerys ddarparu cyngor ar bob agwedd o gyfraith amaethyddol ac mae hi’n gallu cynnig cynllunio busnes fferm gyfannol.

Mae Nerys yn gyfryngwr achrededig a gyda’i chefndir amaethyddol mae hi’n ddewis amlwg ar gyfer anghydfodau yn ymwneud ag amaeth, eiddo gwledig a masnach. Mae gan Nerys, sy’n rhugl yn y Gymraeg, ddau fab ifanc ac mae hi’n rhedeg fferm defaid gyda’i gŵr.

Dr Nerys Llewelyn Jones

Partner