Lea Edwards
Ymunodd Lea â thîm Agri Advisor ym mis Mawrth 2026 fel Cyfreithwraig o dan Hyfforddiant yn ein swyddfa yn y Bala. Astudiodd Lea y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna symudodd ymlaen i gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a gradd Meistr yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl pedair blynedd o astudio aeth Lea i deithio ar draws De-ddwyrain Asia, Awstralia a Seland Newydd cyn dychwelyd adre ar ddechrau 2026.
Mae Lea yn aelod o’i ChFfI leol ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, mynd am dro, a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.
Mae hi’n mwynhau cystadlu mewn sioeau amaethyddol yr haf a’r gaeaf gyda buchod masnachol ei theulu. Wedi datblygu blas am deithio, mae hi’n awyddus i archwilio mwy o wledydd yn y dyfodol.
Lea Edwards
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant