Meinir Jones
Ymunodd Meinir â thîm Agri Advisor ym mis Mawrth 2025, fel Cynorthwy-ydd Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn.
Mae gan Meinir dros ddeng mlynedd o brofiad blaenorol mewn amrywiaeth o rolau fel rhan o’r tîm Gweinyddiaeth o fewn Undeb Amaethwyr Cymru.
Yn ei rôl bresennol gydag Agri Advisor, mae hi’n mwynhau delio â chleientiaid ar y ffôn gan mai hi yw un o’r pwyntiau cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sy’n ein galw, gan ddarparu gwasanaeth dwyieithog o safon.
Magwyd Meinir ar fferm cig a llaeth yn Synod Inn lle’r oedd hi’n mwynhau bywyd fferm yn fawr iawn. Yn ei hamser sbâr, mae Meinir yn mwynhau treulio amser gyda’i ffrindiau a’i theulu, coginio a chymdeithasu.
Mae Meinir yn siarad Cymraeg yn rhugl.
Meinir Jones
Cynorthwy-ydd Gwasanaeth Cwsmeriaid