Sophie Davies

Ymunodd Sophie ag Agri Advisor ym mis Mehefin 2023 fel Cymrawd ac aelod o’r tîm Datrys Anghydfodau.

Wnaeth Sophie gymhwyso yn 2013 ond mae hi wedi gweithio ym maes y gyfraith am dros 22 mlynedd mewn swyddi lle ‘roedd hi’n ennill ffioedd ac mewn swyddi datblygu busnes. Ei maes arbenigol yw ymgyfreitha ac yn fwy penodol anaf personol ac esgeulustod meddygol, fodd bynnag, mae Sophie wedi delio â sbectrwm eang o faterion cyffredinol  gan gynnwys trafodion sy’n ymwneud â thir, anghydfodau contract a dyled, anghydfodau ffiniau a hawliau tramwy, anghydfodau partneriaeth a phrofiant dadleuol. Mae gan Sophie sgiliau datblygu busnes cryf ac mae’n mwynhau cyfarfod ac ymgysylltu â chleientiaid a chysylltiadau newydd.

Mae Sophie yn Gymrawd o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ac wedi bod yn aelod gweithgar o CILEX ers dros 20 mlynedd.  Roedd Sophie yn allweddol wrth sefydlu cangen ranbarthol Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru lle, dros gyfnod o 10 mlynedd, bu’n Ysgrifennydd Grŵp, Trysorydd, Is-gadeirydd ac yn ddiweddarach cymerodd y rôl arweiniol fel Cadeirydd.

Mae Sophie yn byw ar y fferm deuluol yn Sir Drefaldwyn lle mae’n ffermio defaid ar y cyd â’i phartner.  Mae ganddi dwy ferch ifanc sy’n mwynhau’r tymor wyna yn arbennig! Mae Sophie hefyd yn dysgu Cymraeg.

Sophie Davies

Gweithredydd Cyfreithiol Cyswllt