Datganaid y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS)

  • Posted

Dyma arweiniad diweddaraf Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar-lein yng ngolau llediad COVID-19.
Yn Agri Advisor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr trwy’r adeg anodd hyn gan helpu lle bynnag gallwn gyda chwblhau a chyflwyno ceisiadau am Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a ffurflenni grant lle bo angen.

Mae dyddiad cau ceisiadau BPS wedi symud i’r 15fed o Fehefin 2020, gan roi mis ychwanegol i gwblhau’r ffurflenni. Mae wedi’i gadarnhau hefyd na fydd y gofynion Arallgyfeirio Cnydau yn berthnasol ar gyfer BPS 2020.

Er mwyn lleddfu problemau posib llif arian parod, mae cronfa o £5.5m ychwanegol wedi’i greu ar gyfer y BPS a chynllun cefnogi Glastir 2019 sydd wedi ail-agor ar gyfer ffermwyr sydd heb dderbyn eu taliadau BPS a/neu Glastir 2019 eto.

Dyddiad cau trosglwyddo hawliau BPS 2020, rydym yn falch i gadarnhau bod RPW wedi cytuno i’w symud o’r 30ain o Ebrill, i’r 15fed o Fai 2020 er mwyn iddo gydlynu gyda’r dyddiad y mae’n rhaid i dir fod ‘ar gael’ neu ‘at the disposal’ gan hawlydd BPS.

Mae gennym dîm profiadol sy’n arbenigo mewn cyflwyno ffurflenni ac rydym wedi addasu ein systemau i alluogi’r cymorth hyn i barhau drwy apwyntiadau ffôn a galwadau fideo (gan gynnwys gwirio’r ffurflenni yr ydych chi wedi’u cwblhau) er mwyn bod gennych chi’r cymorth sydd angen er mwyn cyflwyno’r ffurflenni o hyd.

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw elfen o’r uchod, mae croeso i chi gysylltu â’n cynghorwyr Ellie: (07495 006808), Katie (07495 006849) neu ein prif swyddfa ar 01558 650381 er mwyn trefnu apwyntiad neu gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth gwirio.