A yw Cytundeb Partneriaeth ysgrifenedig yn angenrheidiol?

  • Posted

Mae’r cwestiwn hyn yn cael ei ofyn i ni’n aml ac mae’r ateb yn dibynnu ar y rheswm pam y mae’n cael ei ofyn.

Yn aml, nid oes partneriaeth ysgrifenedig ffurfiol wedi’i sefydlu ac mae popeth yn dibynnu ar gynnwys y Cyfrifon Ariannol ar wybodaeth sydd gan y Cyfrifydd o ran sut mae’r asedau’n cael eu dal neu’r elw a’r colledion yn cael eu rhannu. Gan amlaf, a pan fo’r bartneriaeth yn gytûn, does dim problem. Fodd bynnag, os bydd chwalfa mewn perthynas y partneriaid, neu hyd yn oed gwrthdaro dros gynnwys Ewyllys partner sydd wedi marw a beth sydd wedi’i ysgrifennu yn y Cyfrifon Ariannol, gall fod yn anodd pennu gwir fwriad y partïon, yn benodol o ran beth sydd, a sydd ddim yn eiddo i’r bartneriaeth.

Mae achos Wild v Wild (2018) yn egluro’r pwynt hyn yn dda. Roedd yn ymwneud â chwaliad partneriaeth ffermio rhwng dau frawd a’i ddirwyn i ben. Roedd yn aneglur p’un ai bod yr eiddo’n cael ei ystyried yn eiddo’r partneriaeth neu eiddo preifat tad y brodyr. Roedd y fferm wedi ymddangos ar gyfrifon ariannol y bartneriaeth o’r 1980au ond pennodd y Llys nad oedd hwn yn ddigonol i brofi ei bod yn eiddo’r bartneriaeth. Nid oedd y Llys yn teimlo ei fod hi’n angenrheidiol gorchymyn bod rhaid i’r fferm fod yn eiddo partneriaeth, gan nad oedd hyn yn fasnachol angenrheidiol er mwyn i’r bartneriaeth fedru ei ffermio.

Byddai Cytundeb Partneriaeth ysgrifenedig wedi gwneud bwriad y Partneriaid yn glir gan osgoi anghydfodau costus ac anangenrheidiol yn y dyfodol.

Mae’r achos yn amlygu’r angen i sicrhau bod bwriad y partïon wedi’i gofnodi,a bod safle’r partneriaid yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd o ran olyniaeth a chynllunio ystâd.

Bydd Agri Advisor yn hapus i’ch helpu i drafod y mater hwn.