Covid -19 a Gwahaniaethu yn y Gweithle (Gorffennaf 16eg 2020)

  • Posted

Yn ystod Covid-19, mae cyflogwyr o hyd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniad a wnaed mewn ymateb i Covid-19 yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn gweithwyr sydd ag unrhyw nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010. Mae’r rhain yn cynnwys oed, rhyw, crefydd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, ac anabledd. Fel bo gweithwyr yn dychwelyd i’r gweithle, mae cyflogwyr yn wynebu penderfyniadau ynghylch pa weithwyr gall dychwelyd i’r gweithle yn gorfforol, pwy sy’n cael pa oriau a phwy fydd, os o gwbl, yn cael eu diswyddo.

Enghraifft o Wahaniaethu Uniongyrchol
Diswyddo gweithiwr sydd wedi bod yn absennol o’r gwaith am gyfnod hir o achos problemau iechyd hir dymor ac sy’n gwarchod (shielding).

Enghraifft o Wahaniaethu Anuniongyrchol
Gwrthod derbyn ceisiadau i weithio’n hyblyg, o adref, neu ran-amser o ganlyniad i gau ysgolion lle gall gweithwyr benywaidd gael eu heffeithio’n anghymesurol.

Mae gan bob un gweithiwr unigol eu hanghenion eu hunain. Dylai cyflogwyr sicrhau bod yna asesiadau risg wedi’u diweddaru er mwyn cyfrif am effaith anghymesurol y Coronafirws ar grwpiau penodol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, unigolion hyn neu sy’n feichiog a ddylai gynllunio sut i leihau risg wrth lunio cynllun dychwelyd i’r gwaith wedi Covid-19.

Gwahaniaethu a Gwobrwyo
Gall fod teimlad o annhegwch yn y gweithle rhwng y gweithwyr hynny sydd wedi parhau i weithio a’r rhai sydd wedi bod ar ffyrlo. O bosib bydd rhai cyflogwyr yn ceisio codi ysbryd trwy wobrwyo’r gweithwyr hynny sydd wedi parhau i weithio trwy Covid-19. Rhaid bod yn ofalus wrth wneud hyn oherwydd gall cyflogwr sy’n gwobrwyo staff am weithio trwy Covid-19 wahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn y gweithlu sy’n gwarchod oherwydd cyflwr iechyd neu’r rhai hynny sydd ar ffyrlo.

Cyngor Pellach

Os hoffech drafod unrhyw elfen o’r erthygl hon neu os hoffech gymorth wrth lunio cynllun dychwelyd i’r gwaith ar gyfer eich gweithlu, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine trwy ffonio 07475069698