Cynnydd Dros Dro yn y Cyfnod Hysbysu ar gyfer Troi Allan o Adeiladau Preswyl a Busnes i gael ei Ymestyn

  • Posted

Tenantiaethau Preswyl

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y cyfnod Hysbysu troi allan ar gyfer pob tenantiaeth wedi’i ymestyn gan 6 mis arall i’r 31ain o Fawrth 2021. Fodd bynnag, pan fo’r rheswm dros roi Hysbysiad ar sail meddiannu yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig, bydd cyfnodau Hysbysu yn dychwelyd i’r safle cyn Covid, sef 3 mis.  Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu ym mis Rhagfyr.

Os yw’r achos troi allan wedi cychwyn yn barod a Hysbysiad Ceisio Meddiant wedi’i gyflwyno rhwng 27ain o Fawrth a’r 23ain o Orffennaf 2020, bydd gan denant 3 mis cyn gall y Landlord ei troi allan. Bydd unrhyw Hysbysiad troi allan sy’n cael ei anfon ar neu ar ôl 24ain o Orffennaf 2020 yn rhoi 6 mis cyn gall Landlord geisio troi Tenant allan.

Mae’r estyniad yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i rentwyr, oherwydd ni all achos troi allan gymryd lle mewn adeiladau mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau lleol a bydd yna hefyd seibiant ar achosion troi allan dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r estyniad yn rhan o becyn mesurau ehangach sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru i warchod Tenantiaid a Landlordiaid yn dilyn effeithiau’r pandemig, sy’n cynnwys:

  • Benthyciad llog isel newydd i Denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent, neu sy’n gweld hi’n anodd talu eu hôl-ddyledion rhent o achos Covid-19. Bydd y Benthyciad Arbed Tenantiaeth yn cael ei dalu’n uniongyrchol i Landlordiaid neu Asiantau a gall gael ei ad-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd ar gyfradd o 1% APR. Agorodd ceisiadau ar gyfer hwn ar ddiwedd mis Medi ac mae’n berthnasol i Denantiaid sydd wedi gweld cynnydd yn eu hôl-ddyledion rhent diolch i Covid-19.
  • Sefydlu llinell gymorth ar gyfer y sector rhentu preifat sy’n cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth Cymru ar gyfer Tenantiaid sy’n cael problemau gyda’u rhent, incwm neu fudd-daliadau tai. Ceir fwy o wybodaeth ar: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/amdanom-ni/contact-us/contact-us/Cysylltu-a-ni/.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James “tra bod y mesurau hyn yn mynd i gynnig amddiffyniad i Denantiaid, nid ydynt yn esgus i bobl osgoi talu eu rhent os oes modd iddynt wneud, a thaclo unrhyw broblemau ariannol maent yn eu profi. Mae cael sgwrs gynnar gyda Landlordiaid er mwyn darganfod ffordd ymlaen yn hanfodol, yn ogystal â derbyn y cyngor dyled cywir”.

Ceir gwybodaeth pellach ar: https://llyw.cymru/troi-allan-or-cartref-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws

Tenantiaethau Busnes

Mae cyhoeddiad ar wahân wedi’i wneud yn ddiweddar mewn perthynas â thenantiaethau busnes. Bydd y moratoriwm yn erbyn fforffediad am fethu â thalu rhent, a oedd i fod dod i ben ar y 30ain o Fedi 2020, yn awr yn rhedeg tan a chan gynnwys y 31ain o Ragfyr 2020 mewn ymgais i atal throi allan afresymol, helpu i warchod swyddi a diogelu busnesau a oedd yn masnachu cyn y pandemig. Er y dylai rhent sy’n ddyledus gael ei dalu pryd bynnag â fo modd, bydd y mesur hwn yn sicrhau nad yw unrhyw fusnes yn cael ei orfodi allan o’i adeilad am golli taliad yn y chwe mis hyd at ddiwedd y flwyddyn.  Gweler https://www.gov.uk/government/publications/code-of-practice-for-the-commercial-property-sector am fwy o wybodaeth.

Yma yn Agri Advisor rydym yn argymell unrhyw Denant Fusnes neu Breswyl i gysylltu â’ch Landlord yn syth os ydych mewn ôl-ddyled rhent neu’n methu talu eich rhent. Hefyd, os ydych chi’n Landlord sydd angen cyngor neu chymorth ar eich opsiynnau taflu tenant allan, cysylltwch ag un o’n swyddfeydd.