Rhybudd i Ffermwyr sy’n Derbyn  Cynllun y Taliad Sylfaenol

  • Posted

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori’r rhai hynny yn y gymuned ffermio i fod yn fwy gwyliadwrus o unrhyw alwadau ffôn, negeseuon destun neu e-byst rhyfedd gan fod sgam wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar sy’n targedu unigolion yn y sector amaethyddol yn benodol.

Mae mis Rhagfyr yn fis allweddol i ffermwyr gan y byddant yn derbyn Cynllun y Taliad Sylfaenol. Mae sgamwyr wedi cymryd mantais o’r ffaith bod gwybodaeth am y taliadau hyn ar gael yn gyhoeddus, gan arwain at dargedu ffermwyr yn uniongyrchol heb lawer o amheuaeth am y peth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sylwi bod sgamwyr fel arfer yn hawlio bod twyll wedi digwydd ar un o gyfrifon banc y ffarmwr a bod angen gweithredu ar unwaith i warchod yr arian. Mae’r ffarmwr yna’n panicio ac yn datgelu gwybodaeth bersonol ac ariannol, neu weithiau hyd yn oed yn trosglwyddo ychydig neu’r holl arian i ‘gyfrif diogel’.

Cynghorodd Paul Callard, o Dim Trosedd Ariannol Heddlu Dyfed-Powys:

“Os byddwch yn derbyn galwad neu neges o’r fath, rhowch y ffôn lawr a                 pheidiwch ag ateb yn uniongyrchol. Yn lle, arhoswch bum munud a ffoniwch    eich banc er mwyn tynnu sylw at y sgam, gan ddefnyddio rhif ffôn                      dibynadwy – megis un o’u gwefan swyddogol.”

Mae llefarydd ar rhan ‘Action Fraud’ hefyd wedi cynghori “na fydd Taliadau Gwledig Cymru na swyddog y llywodraeth na’r banc yn gofyn i chi ddatgelu eich manylion cyfrif banc na gwneud taliad dros y ffôn. Os ydych chi’n credu eich bod wedi ddioddef twyll, cysylltwch ag ‘Action Fraud’ ar unwaith drwy ffonio 0300 123 2040 neu ar www.actionfraud.police.uk.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi darparu’r canllaw canlynol yn dilyn y cynnydd yn y math yma o sgam:

Byddwch yn wyliadwrus o:

  • Unrhyw alwadau, negeseuon testun neu e-byst yn honni eu bod yn cysylltu o’r banc, yr heddlu, corff Llywodraethol neu sefydliad arall yn gofyn am fanylion personol ac ariannol, neu yn gofyn i chi drosglwyddo arian.
  • Galwyr oer sy’n annog chi i roi’r ffôn lawr a’u ffonio yn ôl. Gall twyllwyr gadw eich llinell ffôn ar agor wrth beidio â rhoi’r derbynnydd lawr ar eu hochor nhw.
  • Unrhyw gais i wirio bod y rhif sy’n dangos ar eich arddangosfa ffôn yn cyfateb i rif ffôn cofrestredig y sefydliad. Ni ddylid ymddiried yn yr arddangosfa oherwydd gall y rhif sy’n cael ei arddangos gael ei newid gan y person sy’n ffonio.

Cofiwch:

  • Ni fydd unrhyw un yn gofyn am eich PIN 4 digid neu eich cyfrinair bancio ar-lein, neu i drosglwyddo arian i gyfrif newydd am “resymau twyll”.
  • Os ydych yn derbyn galwad amheus, rhowch y ffôn lawr, arhoswch bum munud i glirio’r lein, neu lle fo’n bosib, defnyddiwch linell ffôn arall, yna ffoniwch eich banc neu ddefnyddiwr cerdyn ar eu rhif sydd wedi’i hysbysebu er mwyn cofnodi’r twyll.

Peidiwch byth â datgelu eich:

  • PIN pedwar digid i unrhyw un, gan gynnwys y banc neu’r heddlu.
  • Eich cyfrinair neu codau bancio ar-lein.
  • Manylion personol oni bai eich bod yn hollol sicr eich bod yn gwybod pwy sy’n siarad. Mae pobl yn dweud celwydd yn aml.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich sgamio, neu os hoffech fwy o wybodaeth am y rhybudd uchod, yna peidiwch ag oedi i gysylltu gyda ni ar 01558 650 381.