Manon Thomas

Mae Manon yn Gyfreithwraig yn gweithio o’n Swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn. Dechreuodd  gyda ni yn Agri Advisor ym mis Ionawr 2020, lle dechreuodd ei Chontract Hyfforddi fel rhan o’i thaith i ddod yn Gyfreithwraig.

Astudiodd y Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o’i gradd Israddedig, ac yna aeth ymlaen i astudio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol hefyd, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wnaeth Manon gael swydd fel Paragyfreithwraig gyda chwmni yng Nghaerdydd, gan ennill profiad cyfreithiol mewn Eiddo Masnachol, Adeiladu ac Elusennau, cyn ymuno â’n tîm yng Nghastell Newydd Emlyn. Roedd hi’n gwybod yn y diwedd ei bod am symud yn ôl adref i Orllewin Cymru a daeth cyfle perffaith gydag Agri Advisor, a dyw hi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny!

Mae Manon ar hyn o bryd yn Gadeirydd CFfI Capel Iwan, Clerc Cyngor Cymuned Cenarth ac mae hefyd yn mynychu côr merched lleol yn wythnosol.

Yn ei hamser hamdden, mae Manon wrth ei bodd yn mynd â’i Golden Retriever, Nansi, am dro o amgylch y fferm. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn mynd nofio ar ôl gwaith fel ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y swyddfa. Mae Manon yn hoff iawn o deithio, ac mae ganddi sawl gwlad i dicio o’r rhestr yn y dyfodol! Mae hi hefyd wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu a mynd allan am fwyd!