Anghydfod Ymddiriedolaeth

  • Posted

Mewn achos anghydfod etifeddiaeth ddiweddar yn yr Unol Daleithiau, amlygodd fater sylweddol ac, er nad oedd ganddo unrhyw effaith cyfreithiol dros achosion sy’n cael eu pennu yng Nghymru a Lloegr, mae’n amlygu sut gall ffeithiau’r achos yn hawdd fod wedi dilyn llwybr tebyg pe bai wedi’i bennu yng Nghymru a Lloegr.

Roedd yr achos yn ymwneud â mab Elizabeth Hurley, a oedd wedi’i eni y tu allan i briodas. Gwrthododd ei dad, a oedd yn fab i unigolyn cyfoethog iawn, gydnabod yn gyhoeddus ei fod yn dad i Damian tan yn hwyrach yn ei fywyd.

Roedd Dr Bing wedi creu Ymddiriedolaeth deuluol yn yr 1980au, yn debygol gyda’r bwriad o gyfyngu’r Dreth Etifeddiant a oedd yn daladwy ar ei ystâd wedi ei farwolaeth, ac adeg ei greu, a oedd yn cynnwys dosbarth buddiolwyr ‘wyrion y dyfodol’. Crëwyd yr Ymddiriedolaeth cyn i unrhyw wyrion gael eu geni y tu allan i briodas. Unwaith iddo ddod i’r amlwg y gall Damian, a’i gefnder a oedd hefyd wedi’i eni y tu allan i briodas, gael budd o’r Ymddiriedolaeth o tua £180,000,000, ceisiodd Dr Bing, wrth ymddwyn fel Ymddiriedolwr, wneud cais am ddehongliad gwahanol i’r diffiniad ‘wyrion’ drwy ychwanegu geiriau/diffiniadau i’r Weithred Ymddiriedolaeth wedi ei greu drwy eithrio’r unigolion hynny a oedd wedi’u geni y tu allan i briodas ac/neu oedd ddim yn byw yng nghartref teuluol y rhieni.

Yn 2019, dyfarnodd llys yn Los Angeles bod y gronfa Ymddiriedolaeth yn syml wedi’i osod i’r neilltu i wyrion heb eu henwi, ac oherwydd bod Damian yn ŵyr biolegol i Dr Bing, y dylai gael yr hawl i etifeddu. Roedd awydd Dr Bing i eithrio wyrion y tu allan i briodas wedi’i gymryd fel ôl-ystyriaeth wedi eu geni, yn hytrach na’n fwriad a oedd ganddo adeg creu’r Ymddiriedolaeth.

Er gwaetha’r dyfarniad gwreiddiol ac yn dilyn marwolaeth tad Damian, mae Dr Bing wedi apelio’r dyfarniad yn llwyddiannus, gan olygu na fydd Damian bellach yn etifeddu ar y sail na fydd y gronfa Ymddiriedolaeth yn cael ei basio ymlaen i “unrhyw berson sydd wedi’i eni y tu allan i briodas oni bai bod y person hwnnw wedi byw am gyfnod sylweddol o amser fel aelod rheolaidd o’r aelwyd.” Yn yr achos hwn, nid oedd Damian (na’i gefnder) wedi byw yng nghartref teuluol eu rhieni nag wedi ffurfio unrhyw fath o berthynas gyda’u rhiant tan iddynt nesáu at fod yn oedolyn.

Yng nghyfraith Cymru a Lloegr, mae’n bosib unioni Gweithred Ymddiriedolaeth ar ôl ei greu ar sail camgymeriad. Fodd bynnag, bydd angen i’r ymgeisydd ddangos bod gan fwriad y Setlwr adeg creu’r Ymddiriedolaeth rhyw fwriad arall i’r un sydd yn y Weithred Ymddiriedolaeth ei hun.

Mae bob tro’n well trafod unrhyw fater, credoau neu ddehongliad yn llawn cyn cwblhau Ewyllys neu Ymddiriedolaeth gan, er enghraifft, gallant bennu beth mae cyfeiriadau at blant yn golygu, yn hytrach na chymhwyso cyfraith gyffredinol.

Mae gan Agri Advisor dîm o Gyfreithwyr a Chynghorwyr arbenigol gall helpu gyda materion sy’n ymwneud ag Ewyllysiau, Treth, Ymddiriedolaethau a’u gweinyddu.

Nicola Davies