Erthygl – Pwy sydd â hawliau prynu gorfodol a sut gallaf amddiffyn fy hun fel ffarmwr tenant?

  • Posted

Mae llawer o bobl wedi clywed am bryniant gorfodol, ac mae wedi bod yn ‘bwnc dadleuol’ yn wleidyddol yn dilyn prosiectau fel HS2. Gorchmynion Prynu Gorfodol (‘CPOs’) yw’r broses lle gall ‘Awdurdodau Caffael’ gael buddiant mewn tir er budd y cyhoedd heb ganiatâd y perchennog neu’r deiliad.

Mae yna sawl math o gorff sydd â phwerau prynu gorfodol, o Awdurdodau Lleol i adrannau Llywodraeth i gwmnïau cyfleustodau ac asiantaethau gweithredol fel y rheiny sydd, er enghraifft, â chyfrifoldebau am arwain prosiectau adeiladu tai.

Gall pryniant gorfodol o dir amaethyddol, wrth gwrs, fod yn broses hynod ddirdynnol a thrafferthus gan ei bod yn gallu effeithio nid yn unig ar eich cartref ond hefyd ar eich bywoliaeth. Felly, mae’n bwysig i chi wybod beth i’w wneud a ble i droi os fyddwch byth yn dod ar draws y sefyllfa lle y derbyniwch hysbysiad yn ymwneud a phrynant gorfodol sy’n effeithio ar dir rydych yn denant ohoni. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chaffaeliadau cyfan o dir, ond hefyd â’r caffaeliadau llai o hawliau i wneud gwaith/gosod ceblau ac ati.

Y peth cyntaf i’w wybod yw os dderbyniwch unrhyw hysbysiad sy’n gysylltiedig â phrisiant gorfodol, dylid gweithredu ar hyn cyn gynted â phosibl – efallai na fyddwch yn gallu atal y broses rhag digwydd, ond bydd gennych y cyfle i drafod swm yr iawndal. Dylech dderbyn rhybudd gan yr Awdurdod yn gynnar yn y broses, fodd bynnag os, er enghraifft, nad yw eich prydles nac ynteu’r tir wedi’u cofrestru yn y Gofrestrfa Tir, neu os nad oes cyfeiriad post ar gyfer y tir rydych chi’n ei rentu efallai na fyddant yn cysylltu’n uniongyrchol â chi ar y cychwyn a gall fod angen i chi gysylltu â nhw i ddarganfod mwy. Mae gwahanol weithdrefnau i’w dilyn yn dibynnu ar y math o CPO. Beth sy’n bwysig, beth bynnag fo’r weithdrefn sy’n cael ei dilyn yw’r hawl i wrthwynebu, yr hawl i herio ac yr hawl i iawndal sy’n rhan o’r rhain i gyd.

Iawndal

Mae gan y rhai sy’n berchen ac sy’n meddiannu tir sy’n cael ei brynu o dan Orchymyn Prynu Gorfodol (CPO) yr hawl i iawndal, ac mae hyn yn cynnwys landlordiaid a thenantiaid. Mae swm yr iawndal yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y tir sy’n cael ei brynu. Bydd yr amgylchiadau yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, pa fath o denantiaeth sydd gennych, os ydych hefyd yn byw ar y tir, os ydyw’r holl dir neu dim ond rhan ohono yn cael ei brynu, a hyd y cyfnod o’ch tenantiaeth sydd ar ôl.

Gall iawndal hefyd gael ei thalu mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o golledion. Gall hyn gynnwys y cyfnod o’r denantiaeth sy’n weddill, colli eich cartref, costau symud, aflonyddwch, hawliau tenant, colledion gwerth stoc a chostau cyfreithiol neu asiant. Bydd angen cyfrif ar bob un o’r categorïau colled hyn, ac felly mae’n bwysig ymgymryd â gwasanaethau syrfëwr arbenigol i’ch helpu i gyfrif a gwneud cais cyn gynted â phosibl.

Fel ag unrhyw gais am iawndal, mae dyletswydd ar yr hawliwr i leihau eu colledion; hynny yw cymryd camau i geisio lleihau unrhyw golled/ costau y gallech eu hwynebu, ac felly’r maint o iawndal.

Diwygio

Mae newidiadau diweddar wedi’u gwneud i’r broses CPO trwy’r Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 ac mae mwy o newidiadau arfaethedig yn y Gyfraith Cynllunio a Seilwaith 2025. O dan gynigion yn y gyfraith 2025, gall Tenantiaid fod â hawl i lefel uwch o iawndal i adlewyrchu’r golled iddynt o’u cymharu â pherchnogion tir nad ydynt yn meddiannu’r tir. Mae’r Llywodraeth wedi cynnig newidiadau i’r rheolau o amgylch talu iawndal o ran ‘gwerth gobaith’, y gwerth a roddir ar y posibilrwydd o gynnydd yn werth tir lle mae caniatâd cynllunio yn cael ei hystyried neu ei roi. Gall awdurdodau bellach ddiystyru ‘gwerth gobaith’ lle nad oes caniatâd cynllunio presennol mewn lle, ac mae’r newidiadau a gynigir yn ceisio ehangu’r pŵer hwn. Amser a ddengys pa welliannau eraill gaiff ei gyflwyno, ond dylai tenantiaid tir amaethyddol gadw lygad ar hyn, yn enwedig os yw eich fferm yn agos at drefi neu bentrefi.

Beth allwch chi ei wneud i ddiogelu eich hun

Y ffordd orau i amddiffyn eich hun mewn perthynas â CPO yw cadw’n ymwybodol, cymryd camau mewn da bryd a chymryd cyngor gan Asiant neu Gyfreithiwr arbenigol ar adeg briodol yn y drafodiad. Mae hwn yn broses gymhleth sy’n gofyn am arbenigwyr i’ch helpu i fynd drwyddi, gan sicrhau eich bod yn derbyn y lefel o iawndal y byddwch yn ei haeddu.

Mae Agri Advisor yn gyfreithwyr amaethyddol arbenigol sydd gallu cynghori ar amrywiaeth eang o faterion. Os hoffech gymorth gydag unrhyw faterion cyfreithiol, os gwelwch yn dda cysylltwch â ni ar advisor@agriadvisor.co.uk.

Gan Eve Shrimpton, wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn Bala.

Erthygl wreiddiol wedi’i chyhoeddi yng nghylchlythyr TFA Cymru i’w haelodau ym mis Tachwedd 2025. www.tfa.org.uk.