Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Frankie Jones

  • Posted

Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9fed – 15fed o Chwefror) a hoffen daflu golwg ar y prentisiaid sydd yn gweithio gyda ni yn Agri Advisor. Mae ein prentisiaid yn gweithio tuag at gwblhau amrywiol gymwysterau tra hefyd yn gweithio yn ein Cwmni.

Yn ail ni’n dal lan gyda Frankie Jones, sy’n gweithio tuag at gwblhau Prentisiaeth Cyfreithiwr lefel 7. Mae hi’n dweud:

Ers dechrau’r Brentisiaeth Cyfreithiwr yn 2023, mae fy rôl yn y cwmni wedi datblygu’n sylweddol. Yn benodol dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gallu profi amrywiaeth eang o waith cyfreithiol ymarferol.

Rydw i wedi mynychu gwrandawiadau llys, cyfryngiadau, a nifer o gyfarfodydd gyda bargyfreithwyr, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfarfodydd cleientiaid. Mae bod ynghlwm wrth y materion hyn yn uniongyrchol wedi caniatáu i mi ddeall realiti gwaith cyfreithiol mewn ffordd na allai astudio ar ei ben ei hun byth wneud.

Rwy’n gallu teimlo fy ngwybodaeth a’m hyder yn tyfu wrth i amser fynd heibio, ac rwy’n gyffrous i symud ymlaen tuag at gwblhau fy ngradd gyfreithiol israddedig a symud ymlaen i’r SQE mewn tua deunaw mis. Mae’r cyfle i ddysgu’n uniongyrchol wrth gyfreithwyr profiadol, sydd bob amser yn barod i rannu eu harweiniad, yn parhau i fod yn un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr o’r brentisiaeth.