Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Kelsie Flavell
Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9fed – 15fed o Chwefror) a hoffen daflu golwg ar y prentisiaid sydd yn gweithio gyda ni yn Agri Advisor. Mae ein prentisiaid yn gweithio tuag at gwblhau amrywiol gymwysterau tra hefyd yn gweithio yn ein Cwmni.
Yn gyntaf ni’n dala lan gyda Kelsie Flavell sy’n gweithio tuag at gwblhau Prentisiaeth Paragyfreithiol CILEX Lefel 3, mae hi’n dweud:
Ers dechrau fy nghyfnod prentisiaeth ym mis Hydref 2024, rwyf wedi darganfod bod gweithio mewn amgylchedd cyfreithiol wrth astudio wedi bod yn werth chweil ac yn ysgogol. Rwyf eisoes wedi sefyll pedwar o’m chwe arholiad ac fe gwblhaf fy astudiaethau yn ddiweddarach eleni, ar y pwynt hwnnw byddaf yn cymhwyso fel Paragyfreithwraig.
Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, rwyf wedi gallu datblygu fy sgiliau cyfreithiol ymarferol ochr yn ochr â’m hastudiaethau, gan wneud y trawsnewid o ddysgu i ymarfer yn ddiddorol ac yn effeithiol. Mae gweithio’n agos gyda chyfreithwyr profiadol wedi rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i mi ac wedi rhoi’r cyfle i ddatblygu dealltwriaeth gryfach o brosesau cyfreithiol. Mae cydbwyso gwaith llawn amser gyda fy astudiaethau hefyd wedi cryfhau sgiliau allweddol y gellir eu trosglwyddo fel cyfathrebu, rheoli amser a threfnu, sydd i gyd yn hanfodol yn y proffesiwn cyfreithiol.
Yn gyffredinol, mae fy hyfforddiant wedi rhoi sylfaen gref i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol yn y gyfraith a llwybr clir i symud ymlaen yn y sector cyfreithiol. Byddwn yn argymell y llwybr hwn yn gryf i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad ymarferol wrth weithio tuag at gymwysterau proffesiynol.