Erthygl – Adeiladu Achos yn erbyn eich Landlord am Wrthodiad Afresymol i Ganiatáu Mynediad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Nid yw’n hir tan fod newid mawr i gymorthdaliadau ffermwyr ledled Cymru, a bydd ffermwyr hyd a lled Cymru yn gwneud eu ceisiadau cyntaf ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy. I denantiaid mae yna gam ychwanegol sydd angen eu cymryd wrth ystyried pa un ai a gwneud cais i’r cynllun, sef, sicrhau bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu unrhyw newidiadau sydd yn ofynnol i chi wneud er mwyn cyflawni’r gweithredoedd sydd yn ofynnol i gydymffurfio â’r cynllun. Mae’n hanfodol i ddeall unrhyw newidiadau sydd angen i chi wneud a sut y bydd rhain yn cyd-fynd â thelerau eich tenantiaeth. Yn benodol pa un ai eich bod chi angen cael caniatâd eich Landlord ar gyfer unrhyw newidiadau rydych yn mynd i angen gwneud.
Newid yn y Gyfraith
Yn ddiweddar mae’r gyfraith wedi newid i ganiatáu tenantiaid i gyfeirio anghydfodau at gyflafareddiad neu benderfyniad arbenigol pan mae’r Landlord yn gwrthod cais i newid telerau’r denantiaeth amaethyddol mewn sefyllfaoedd penodol. Mae’r mecanwaith newydd yma yn galluogi materion yn ymwneud ag anghydfodau am geisiadau i newid telerau’r denantiaeth a cheisiadau i ganiatáu’r Tenant gael mynediad at “gymorth ariannol perthnasol”. Mae “cymorth ariannol perthnasol” yn cwmpasu nifer o wahanol gynlluniau yn cynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, felly mae’n werth cadarnhau pa un ai bod y rheolau yn berthnasol ar gyfer caniatâd am fynediad at unrhyw gynllun yn benodol.
Pa gamau ddylwn i eu cymryd os oes angen i mi gael caniatâd fy Landlord ar gyfer unrhyw newidiadau?
Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau i delerau eich cytundeb, y cam cyntaf byddai mynd at eich Landlord i drafod hyn. Mae cael trafodaeth ymarferol yn gam fuddiol i arbed a chynnal perthynas bositif gydag eich Landlord. Os mae’r sgwrs yn llwyddiannus dylech chi ddilyn y drafodaeth gyda chais ysgrifenedig. Er mwyn elwa o’r hawliau atgyfeirio newydd, mae’n angenrheidiol i’r cais ysgrifenedig gynnwys elfennau penodol er mwyn iddo gael ei ystyried fel “cais cymwys”. Mae’r elfennau yma, ymhlith pethau eraill yn cynnwys, manylion o’r cais rydych yn gwneud, disgrifiad o’r gweithgareddau rydych yn bwriadu eu gwneud ar y Daliad a thystiolaeth i gefnogi pam rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth ariannol perthnasol os caniateir eich cais. Mi fydd angen i chi gymryd cyngor i baratoi’r cais ysgrifenedig i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl elfennau o “gais cymwys”.
Beth sydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais cymwys?
Unwaith rydych chi wedi gwneud cais cymwys mae gan y Landlord 2 fis i gyflwyno gwrthrybudd, gall y gwrthrybudd gyd-synio â’r cais, cyd-synio â’r cais yn amodol ar amodau neu wrthod y cais. Os nad yw’r Landlord yn cyflwyno gwrthrybudd, gwrthod y cais neu yn gosod amodau sydd yn eich barn chi yn annerbyniol mae gennych chi 4 mis o’r dyddiad wnaethoch chi gyflwyno’r cais gwreiddiol i gyfeirio’r mater at gyflafareddiad. Er mwyn cyfeirio’r cais dylech sicrhau bod unrhyw rent sydd yn ddyledus yn cael ei dalu, eich bod chi wedi cyflwyno cais cymwys, ac nad yw eich Landlord wedi cyflwyno ‘hysbysiad terfynu diamheuol’.
Unwaith caiff y mater ei gyfeirio at gyflafareddiad neu benderfyniad arbenigol mi fydd y cyflafareddwr/arbenigwr yn penderfynu pa un ai bod rhaid i’r Landlord rhoi caniatâd i’r cais neu unrhyw benderfyniad arall maent yn ei ystyried i fod yn rhesymol a chyfiawn.
Mae yna nifer o elfennau i’w bodloni wrth gyfeirio cais llwyddiannus at gyflafareddu neu benderfyniad arbenigol, ac mae yna wahaniaeth mewn Tenantiaid Rheoliadau Daliadau Amaethyddol a Thenantiaethau Busnes Fferm. Felly, mae’n fuddiol cael cyngor cyfreithiol yn gynnar er mwyn sicrhau fod gennych chi gymorth arbenigol i’ch arwain chi drwy hyn. Mae’r tîm yn Agri Advisor yn arbenigwyr yng nghyfraith amaethyddol a byddent yn falch i’ch tywys chi drwy’r broses yma.
Gan Eve Shrimpton, wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn Bala.
Erthygl wreiddiol wedi’i chyhoeddi yng nghylchlythyr TFA Cymru i’w haelodau ym mis Ionawr / Chwefror 2026. www.tfa.org.uk.