Ydych chi eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig sydd wedi’i gydnabod am ei arloesedd wrth weithredu? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn awyddus i recriwtio’r canlynol i swyddfa Gaerwen.
Cynorthwy-ydd Swyddfa
Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys:
- Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa;
- Teipio o nodiadau;
- Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol;
- Delio ag ymholiadau gan gleientiaid drwy e-bost a llythyr;
- Ateb galwadau ffôn;
- Rheoli dyddiadur a chreu apwyntiadau;
- Copïo a sganio;
- Paratoi ffeiliau llys;
- Gwaith ffeilio a gweinyddu cyffredinol gan gynnwys gohebiaeth sy’n dod i mewn ac allan; agor,rheoli a chau ffeiliau cleientiaid;
- Delio â thaliadau gan gwsmeriaid; a
- Darparu cefnogaeth i’ch enillwyr ffioedd dynodedig mewn perthynas â rheoli materion.
Rhinweddau allweddol:
- Chwaraewr tîm;
- Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol;
- Profiad yn Microsoft Office;
- Sgiliau bysellfwrdd ardderchog;
- Y gallu i gadw pethau’n gyfrinachol;
- Proffesiynol; a
- Gyda’r gallu i fynegi’ch hun gyda gramadeg a sillafu da.
Gan fod nifer o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Yn ogystal â’ch prif ddyletswyddau efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol neu wahanol yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol o bryd i’w gilydd ac sy’n gyson â’ch rôl yn y cwmni.
Llawn amser (dydd Llun i ddydd Gwener 9 – 5).
Cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol
Lleoliad: I gael eich lleoli yn swyddfa Gaerwen.
Gwnewch gais ysgrifenedig drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol at hr@agriadvisor.co.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16ed o Hydref 2026.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Shan Davies ar 01558 650381