Eiddo Amaethyddol ac Eiddo Marchogaeth

 

EIDDO AMAETHYDDOL

Fel arbenigwyr yn y sector Amaethyddol, dydy hi ddim yn syndod bod gan ein tîm brofiad sylweddol wrth ddelio â phob math o thrafodiad Eiddo, sy’n mynd law yn llaw gyda ffermio. Yn benodol, gallwn ddelio â:

  • Gwerthu a Phrynu Tir, Ffermydd a Busnesau Fferm.

Gan weithio gyda’n gilydd, gall ein tîm ddelio gydag agweddau “eiddo” a “busnes” prynu a gwerthu ffermydd, yn ogystal ag unrhyw drosglwyddiad hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol, neu BPS.

  • Morgeisi

Gallwn ddelio â Morgeisi’r mwyafrif o fanciau’r stryd fawr, ac mae gan ein tîm hefyd brofiad o ddelio gyda darparwyr cyllid amgen. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyfrifwyr a chynghorwyr ariannol er mwyn eich darparu gyda’r cyngor gorau phosib.

  • Cofrestriad Cyntaf Teitl

Mae cyfran fawr o Deitl (h.y. perchnogaeth) tir gwledig heb eu cofrestru o hyd gyda’r Gofrestrfa Tir. Gall delio gyda chais gwirfoddol cofrestriad cyntaf Teitl olygu bod gwerthu yn y dyfodol dipyn yn haws, arwain at leihad mewn cymhlethdodau a all godi ar farwolaeth perchennog tir, yn ogystal â helpu lleihau twyll eiddo.

  • Gweithred Hawddfraint (gan gynnwys caniatáu hawl tramwy, neu hawl am wasanaeth)

Mae hawl mynediad neu er mwyn darparu gwasanaeth (e.e. dŵr/trydan) yn bwysig iawn mewn cyd-destun gwledig. Mae’n bwysig iawn sicrhau bod gan eich tir budd o’r holl hawliau angenrheidiol i’ch galluogi i’w defnyddio fel y dymunwch. Gallwn eich cynghori am hawliau presennol, yn ogystal â drafftio telerau unrhyw hawl newydd sy’n cael ei ganiatáu/neilltuo.

  • Trosglwyddiadau tir rhwng teuluoedd

Mae cynllunio olyniaeth o’r pwys mwyaf i’r sector amaethyddol, ac mae ystyried pryd a sut i drosglwyddo tir i’r genhedlaeth nesaf yn rhan allweddol o hyn. Gall ein cydweithwyr Ewyllysiau ac Ystadau eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

EIDDO MARCHOGAETH

Ceir ambell wahaniaeth pwysig rhwng eiddo Amaethyddol/Preswyl ac eiddo sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu’n rhannol am bwrpas Marchogaeth. Gall ein tîm eich harwain trwy’r materion sydd angen i chi eu hystyried wrth brynu neu werthu tir o’r natur hwn.

Rydym hefyd yn arbenigwyr mewn cyfraith geffylau, delio gydag anghydfodau ynghylch cytundebau ar gyfer lifrai a phori, yn ogystal ag anghydfodau dros brynu a gwerthu ceffylau.

 


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib