Elliw Huws
Ymunodd Elliw â thîm Agri Advisor ym mis Tachwedd 2025 ac mae’n gweithio fel Cynorthwyydd Swyddfa yn ein swyddfa yn Aberystwyth.
Cafodd ei magu ar fferm odro ar Sir Fôn, a bellach mae wedi symud ymlaen i astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wrth edrych am swydd ran-amser ochr yn ochr i’w hastudiaethau yn 2025, daeth ar draws y swydd hon yn swyddfa Aberystwyth, ble mae’n cael y cyfle i ddatblygu ei sgiliau cyfreithiol yn ymarferol. Mae gan Elliw ddiddordeb enfawr mewn amaeth, ac mae’r ffaith bod hi’n gallu bod yn rhan o’r sector wrth astudio yn deimlad cartrefol iawn iddi.
Mae Elliw yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ers wyth mlynedd ac wedi dal llu o swyddogaethau yn y mudiad ar yr ynys. Mae hefyd yn aelod gweithgar o fudiad yr Urdd, ac yn cael y cyfle i wirfoddoli gyda’r mudiad yn aml. Mae’n Ysgrifennydd ac yn Swyddog y Gymraeg i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ynghyd â bod yn Llysgennad Myfyriwr Adran y Gyfraith ac yn Gynrychiolydd Academaidd I fyfyrwyr ail flwyddyn astudiaethau’r Gymraeg.
Mae Elliw yn mwynhau gwrando ar ystod eang o gerddoriaeth, a hefyd yn mwynhau cyfansoddi a rhyddhau cerddoriaeth ei hun ar brydiau. Ond ei chariad cyntaf yw mynd am dro gyda’i ffrindiau a chael ambell ‘pit-stop’ mewn tafarn ar y daith. Mae Elliw yn rhugl yn y Gymraeg.
Elliw Huws
Cynorthwy-ydd Swyddfa