Beth gall newid yn y rheolau IHT olygu mewn gwirionedd?

  • Posted

Yn dilyn fy erthygl yr wythnos/mis diwethaf ar y newidiadau posib i’n regîm treth gyfalaf (capital tax), mae sawl person wedi gofyn i mi ddarparu enghreifftiau o beth fydd effaith posib rhai o’r newidiadau hyn ar fusnes ffermio arferol.

Fel y dangosir yn yr esiamplau isod, mae rhyddhadau (neu reliefs) ac eithriadau yn bodoli ar hyn o bryd sy’n galluogi busnesau ffermio i gael eu trosglwyddo yn ystod bywyd neu adeg marwolaeth heb orfod talu biliau treth sylweddol. Pan gymherir hyn i’r esiamplau os daw’r newidiadau i rym, noder bod yna wahaniaeth dramatig.

Mae’r Adroddiad gan yr ‘All-Party Parliamentary Group’sef ‘Reform of inheritance tax’ (Ionawr 2020) yn nodi effaith tebygol y cynigion newydd ar y cyhoedd, ac yn cadarnhau o ran y rhai ‘cyfoethog iawn, gyda busnes neu/ag asedau amaethyddol’ bydd y rheolau newydd yn eu symud o ‘safle bach iawn neu dim treth’ i safle gyda ‘swm sylweddol fwy o dreth, ond wedi’i wasgaru dros 10 mlynedd’gyda ‘sgôp cyfyngedig i leihau treth ymhellach gydag anrhegion yn ystod bywyd’. Gall hyn gael effaith ddinistriol ar rai busnesau ffermio teuluol sy’n graig i’n cymunedau gwledig.

Esiamplau o senario ‘Gyfredol’ a ‘Phosib’:

Ffeithiau:

  • Fferm – Gwerth £1,500,000
  • Da Byw a Pheiriannau Fferm – Gwerth £150,000
  • Arian Parod – £50,000
  • Benthyciadau Busnes -£150,000
  • Atebolrwydd CGT ar ôl marw – £80,000
  • Ffermwr (mewn llaw) – Alun, gweddw
  • Pob ased yn pasio i’r mab, John, o dan yr Ewyllys

SENARIO 1 – Fferm fel Anrheg o dan yr Ewyllys

Safle Cyfredol

  • IHT – £0
  • CGT – £0
  • John yn cael y fferm heb unrhyw atebolrwydd CGT ac IHT
  • Atebolrwydd – £0

Safle Posib

  • IHT – £90,000
  • CGT – £80,000
  • Rhaid i’r ystad dalu £90,000 ar farwolaeth neu mewn 10 rhandaliad cyfartal gwerth £9,000
  • John yn cymryd yr atebolrwydd CGT, rhaid talu i HMRC pe bai’n gwerthu neu’n rhoi’r ased fel anrheg fyth.
  • Atebolrwydd – £90,000 IHT ac atebolrwydd o £80,000 CGT yn pasio i’r mab

SENARIO 2 – Rhoi’r Fferm fel Anrheg yn ystod bywyd i John

Safle Cyfredol

  • IHT – £0. Mae’r rheolau anrheg 7-blynedd yn berthnasol ond, dim ond os yw’r asedau’n bodloni’r rheolau APR ar ddyddiad y trosglwyddiad, ac nid oes unrhyw newid wedi bod yn ei ddefnydd ers hynny, ni ddylai atebolrwydd godi, hyd yn oed pe bai Alun yn marw o fewn y 7 mlynedd;
  • CGT – £80,000 – dylid talu atebolrwydd CGT Alun naill ai nawr neu, mae etholiad dal drosodd ar y cyd yn cael ei wenud lle mae John yn cymryd yr atebolrwydd CGT ymlaen oddi wrth ei dad, rhaid ei dalu i HMRC os yw’n gwerthu, neu’n rhoi’r ased fel anrheg fyth;
  • Atebolrwydd – dim atebolrwydd IHT. £80,000 o atebolrwydd CGT yn pasio i’r mab

Safle posib

  • IHT – £0
  • Treth anrheg yn ystod bywyd – 10% dros £30,000. Fferm gwerth £1,500,000 tynnu’r lwfans blynyddol o £30,000 = £1,470,000 wedi’i drethi ar 10% = £147,000 yn daladwy yn syth yn llawn
  • CGT – £80,000 – dim opsiwn i ohirio’r dreth a rhaid ei dalu pan yn rhoi fel anrheg i Alun. Bydd John yn gwneud y fferm yn rhydd o unrhyw atebolrwydd CGT blaenorol.
  • Atebolrwydd – £147,000 treth anrheg yn ystod bywyd a CGT o £80,000 = £227,000 yn daladwy gydag anrheg