Canllaw i hawliadau bach trwy’r Llys Sirol.

  • Posted

Mae hawliadau bach wedi’u cyfyngu i hyd at £10,000, fel arfer maent yn deillio o hawliadau iawndal am wasanaethau diffygiol neu am filiau heb eu talu. Maent hefyd yn cynnwys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid – er enghraifft, ôl-ddyledion rhent neu iawndal am fethu ag atgyweirio, hawliadau damweiniau ffordd neu gyflogau sy’n ddyledus.

Bydd y Llys bob tro’n disgwyl bod y partïon sydd mewn anghydfod wedi ceisio datrys materion cyn cychwyn achos Llys. Os yw bob ymgais i setlo’r mater yn methu, dim ond bryd hynny dylid ystyried achos Llys – dyma’r opsiwn olaf un. Fodd bynnag, os nad oes opsiwn arall ar gael, mae hawliad bach drwy’r Llys Sirol wedi’i gynllunio i fod yn broses syml gyda chost isel lle gall person heb gefndir na gwybodaeth gyfreithiol ddod ar ran eu hunain.  Y gwirionedd yw, i rai pobl mae’r iaith a ddefnyddir a’r dybiaeth o ychydig o wybodaeth gyfreithiol yn gwneud y broses yn un anodd.

Ceir termau cyfreithiol o gychwyn y broses gyda llanw’r Ffurflen Hawliad (neu’r ‘Claim Form’), sef yr N1, lle cyfeirir at y person sy’n dod ag achos fel yr ‘hawlydd’ (neu’r ‘claimant’), tra bod unrhywun sy’n amddiffyn yr hawliad yn cael eu cyfeirio at fel ‘diffynnydd’ (neu ‘defendant’). Yn hwyrach ymlaen ar y ffurflen, gofynnir i chi darparu manylion yr hawliad ‘neu’r particulars of claim’. Yn syml, mae angen manylion ar yr adran hon o beth yw’r broblem. Dylai ddarparu’r Llys a’r Diffynnydd gyda digon o wybodaeth i wybod am beth y mae’r cwyn. Weithiau bydd angen i chi hefyd ddarparu papurau ychwanegol i’r Llys, er enghraifft os yw’r mater yn ymwneud â dyled, bydd angen copi o’r anfoneb.

Os yw’r mater yn ymwneud â dyled, yna gellir llanw’r ffurflenni yn electronig a’u cyflwyno i’r Llys trwy wasanaeth Hawliad Arian Ar-lein ar http://www.moneyclaim.gov.uk. Os yw’n hawliad am unrhywbeth ond am arian, yna dylid anfon neu fynd â dau gopi o’r ffurflen hawliad i’r Llys Sirol. Pa bynnag fodd yr ydych yn cychwyn eich hawliad, mae yna ffi sy’n daladwy i’r Llys – y ffi cais. Mae’r ffi yn amrywio yn ddibynnol ar os yw’r hawliad yn cael ei wneud ar-lein a gwerth yr hawliad, ceir manylion llawn am y ffi ar:  https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data /file/789201/ex50-eng.pdf

Bydd y Ganolfan Llys neu’r Llys Sirol yn selio’r ffurflen hawliad ac yna fel arfer yn ei anfon i’r Diffynnydd, fel ei fod yn nhermau cyfreithiol wedi’i serfio ar y Diffynnydd. Fel yr Hawlydd, byddwch yn ymwybodol o os ydych wedi cychwyn eich hawliad yn llwyddiannus pan fydd y Llys yn anfon ‘Hysbysiad Lansio’ (neu ‘Notice of Issue’). Mae yna reolau ac amserlenni llym sydd rhaid eu dilyn unwaith bydd hawliad wedi cychwyn. Gall fethu â gwneud hyn ddylanwadu ar y canlyniad.

Mae’r papurau a anfonir i’r Diffynnydd yn esbonio beth ddylent wneud. Mae gan Ddiffynnydd 14 diwrnod i gydnabod eu bod wedi derbyn papurau’r Llys ac yna os ydynt yn anfon y gydnabyddiaeth hynny yn ôl gan ddymuno “amddiffyn” yr hawliad, bydd ganddynt 14 diwrnod pellach i anfon manylion yr amddiffyniad i’r Llys.

Pan fydd y Llys yn derbyn y gydnabyddiaeth serfiad, byddant yn rhoi gwybod i’r Hawlydd gan anfon ffurflen N10 iddynt. Mae’r N10 yn datgan pryd derbyniwyd y gydnabyddiaeth serfiad, os yw’r Diffynnydd yn bwriadu amddiffyn yr hawliad, yn datgan os yw’r Diffynnydd wedi apwyntio Cyfreithiwr ac unrhyw newidiadau yn enw a chyfeiriad y Diffynnydd.

Os nad yw’r Llys yn derbyn cydnabyddiaeth serfiad wrth y Diffynnydd, neu os yw’r Diffynnydd wedi darparu cydnabyddiaeth serfiad ond wedi methu â darparu amddiffyniad mewn amser, gall yr Hawlydd gaffael ‘Dyfarniad oherwydd Diffyg’ neu ‘Default Judgement’. Golyga hyn bod y Llys yn cyhoeddi gorchymyn o blaid yr Hawlydd. Mae’r gorchymyn yna’n rhoi’r hawl i’r Hawlydd gaffael y taliad sy’n ddyledus wrth y Diffynnydd ac yn ddibynnol ar werth yr hawliad gall hyn gynnwys, ar draul pellach yr Hawlydd, apwyntio Beilïaid i adennill yr arian. Ceir wrth gwrs sawl opsiwn gorfodi arall.

Os yw’r hawliad yn cael ei amddiffyn, yna bydd proses y Llys yn parhau. Mae beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar y rheswm tu ôl pam fod hawliad wedi’i gwneud yn y lle cyntaf. Gall gynnwys yr angen am gwblhau holiadur, darparu ‘datganiadau tyst’ (neu ‘witness statements’) (sef cofnod o beth ddigwyddodd ac effeithiau’r digwyddiadau hynny) a gall arwain at wrandawiad Llys. Dylid nodi bod y partïon i’r anghydfod yn medru datrys y mater ymysg ei gilydd ar unrhyw bwynt i fyny at y gwrandawiad Llys.

Os yw’r mater yn cyrraedd gwrandawiad Llys, bydd y mater fel arfer yn cael ei glywed o flaen Barnwr yn y Ganolfan Llys agosaf i gartref yr Hawlydd. Gan ddibynnu ar agosrwydd cymharol y ddau barti, gall hwn gynnwys costau teithio sylweddol i’r Diffynnydd fynychu’r gwrandawiad. Mewn hawliadau bach, yn gyffredinol bydd pob parti yn talu costau eu hunain, fodd bynnag dylid bod yn ymwybodol os byddwch chi’n aflwyddiannus mewn hawliad bach, neu fel Diffynnydd mewn hawliad bach rydych chi’n codi costau anangenrheidiol ar yr ochr arall ac yna’n colli, bydd gan y Llys ddisgresiwn i’ch gorchymyn i dalu’r costau y mae’r ochr arall wedi wynebu os ydych wedi ymddwyn yn afresymol.