Karen Anthony

Ymunodd Karen ag Agri Advisor yn 2016. Cyn hynny roedd Karen yn gweithio yn y gwasanaeth sifil tra’n astudio am radd Meistr yn Efrog cyn gorffen ei hyfforddiant cyfreithiol drwy Brifysgol De Morgannwg. Wedi gadael y gwasanaeth sifil cafodd Karen ei haphwyntio’n Gyfarwyddwr Polisi i CLA Cymru lle treuliodd hi bedair mlynedd llewyrchus yn cynrychioli’r aelodaeth ar ystod eang o bynciau amaethyddol a gwledig.

Daw Karen o deulu ffermio yng Ngorllewin Cymru ac mae hi’n rhugl yn y Gymraeg. Cwrddodd hi â’i darpar ŵr (ar y pryd) trwy Fudiad y Ffermwyr Ifainc. Ar ôl priodi buant yn byw ar fferm odro cyn i Karen a’i gŵr arallgyfeirio i fagu gwartheg sugno cynhenid pedigri a thyfu cnydau âr. Mae gwerthiant y fferm yn ddiweddarach wedi annog Karen a’i gŵr i adael ffermio o ddydd i ddydd.

Karen Anthony

Uwch Gyfreithwraig Cyswllt