Covid – 19 Newyddion Diweddaraf am Gyflogaeth

  • Posted

Newidiadau i delerau ac amodau

Mae llawer o resymau pam y byddai busnes yn ceisio amrywio telerau contract cyflogaeth rhywun. Yn sgil y pandemig a’r cyfnod economaidd presennol, y newidiadau mwyaf tebygol y byddai sefydliad yn ceisio eu gwneud yw:

  • gostyngiad mewn cyfraddau cyflog
  • gostyngiad mewn oriau
  • cytuno i absenoldeb di-dâl (neu “cilio”)
  • newid i’r patrwm awr safonol, efallai oherwydd pryderon diogelwch, neu er mwyn dod â staff yn ôl

gan ddefnyddio’r cynllun “hyblygrwydd seibiant swydd”.

Mae’n bwysig peidio â newid telerau contract cyflogaeth heb ei drafod gyda’r gweithiwr, hyd yn oed os yw eich contract yn nodi y gellir gwneud  newidiadau iddo. Er y gallai’r cymal hwn helpu i amddiffyn achos o dorri contract, gallai gweithredu fel hyn dorri’r telerau ymhlyg o ymddiriedaeth a hyder o’r ddwy ochr ac o bosibl arwain at hawliad am ddiswyddiad annheg adeiladol.

Wrth wneud newid i’r contract a allai fod yn negyddol i’r gweithiwr, mae’n bwysig bod yn barod. Os ydych yn ceisio sefydlu toriad cyflog, er enghraifft, byddwch yn ymwybodol bod yr unigolyn yn debygol o fod yn ofidus am hyn ac na fydd am ei dderbyn o’i wirfodd.

Os na fydd yr unigolyn yn cytuno i’r newid i’r contract, mae penderfyniad i’w wneud. Hawl yr unigolyn yw parhau â’i gontract o dan y telerau a oedd ganddo o’r blaen, ac mae’n bosibl bod y busnes yn penderfynu y gall ddilyn y dull hwnnw. Fodd bynnag, os oes gwir angen gwneud y newid a bod y sefydliad yn gallu dangos yr achos busnes wrth wneud hynny, byddai’n amser symud tuag at broses “diswyddo ac ail-ymgysylltu”.

Mae’r broses hon yn cynnwys cyfarfodydd ymgynghori gyda’r gweithwyr, i ddechrau bob amser gyda’r bwriad o gael eu caniatâd. Efallai, fel rhan o hyn, y gellir ystyried opsiynau eraill hefyd. Yn ystod y broses hon, dylid hysbysu’r gweithiwr bod diswyddiad yn ganlyniad posibl os na ellir dod i gytundeb, a bod yr ystyriaethau arferol o dan Gôd ACAS yn berthnasol. Os nad oes cytundeb gan y gweithiwr ac amrywiad yw’r unig opsiwn, yna gall y busnes diswyddo ar rybudd a chynnig ail-ymgysylltu (os dymunant) ar y telerau newydd.

Byddai hyn yn ddiswyddiad ac felly mae’n bwysig ei wneud yn gywir er mwyn osgoi’r risg o hawliad am ddiswyddiad annheg yn dilyn.  Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r niferoedd yr effeithir arnynt mewn proses o’r fath – os oes siawns efallai y byddwch yn diswyddo ac yn ail-ymgysylltu 20 neu fwy mewn cyfnod o 90 diwrnod yna ddaw rhwymedigaethau ymgynghori ar y cyd i rym.

Rhagor o gyngor

Gall amrywio contractau cyflogaeth fod yn fater cymhleth, ac mae’n bwysig iawn cymryd y mesurau a’r broses gywir i osgoi hawliadau costus gan Dribiwnlys Cyflogaeth.  I gael rhagor o gyngor a chymorth gydag amrywio contractau cyflogaeth, cysylltwch â’n Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.