Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein rhaglen cyfreithiwr dan hyfforddiant. Rydym yn chwilio am hyfforddeion deallus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm yn 2027/2028.
Rydym ni yn Agri Advisor Legal LLP yn dîm o arbenigwyr mewn cyfraith amaethyddol a gwledig. Oherwydd y ffordd yr ydym yn strwythuro ein contractau hyfforddi, byddwch yn eistedd mewn chwe sedd am bedwar mis drwy gydol y contract hyfforddi dwy flynedd gan weithio mewn amryw o feysydd cyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys Eiddo a Chynllunio, Cleient Preifat, Cyfraith Teulu, Cynllunio Etifeddiaeth, Cyfraith Masnachol a Datrys Anghydfodau.
Byddwn hefyd yn ystyried ymgymryd â’r cytundeb hyfforddiant ar sail rhan amser i gydredeg gyda hyfforddiant.
Byddwch yn derbyn cyfrifoldeb o gyfnod cynnar, i gael profiad ymarferol gyda goruchwyliaeth ac arweiniad gan gyfreithwyr profiadol drwy gydol eich cyfnod o hyfforddiant a thu hwnt.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr o bob cefndir, ond rydym yn gofyn eich bod chi:
- wedi cwblhau eich LPC, neu’n bwriadu ymgymryd â’r SQE o fewn y 2 flynedd nesaf
- yn meddu ar gofnod academaidd cryf gyda lleiafswm gradd o 2:1
- yn fasnachol ymwybodol ac yn bragmatig
- yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol a meddu ar sgiliau cyfathrebu a
phersonol da
- â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cyfraith amaethyddol neu wledig
Bydd angen i chi naill ai fod wedi pasio’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), neu’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) neu’n dymuno ymgymryd â’r LPC neu’r SQE yn ystod eich cyfnod hyfforddi. Er mwyn ymgymryd â’r LPC, bydd rhaid cyrraedd rhai gofynion trosiannol a fydd yn golygu eich bod wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig. Os nad ydych yn cyrraedd y rhain, bydd angen i chi gymhwyso o dan y llwybr SQE.
Byddwch yn gweithio o fewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle bydd eich datblygiad proffesiynol yn cael ei gynorthwyo a’i werthfawrogi.
I wneud cais, anfonwch eich llythyr eglurhaol a’ch CV at hr@agriadvisor.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 7fed o Awst 2026.