Proses ddiswyddo-Covid-19

  • Posted

Gyda’r cyhoeddiad y bydd y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws neu ‘ Seibiant Swydd ‘ yn cael ei ddiddymu’n raddol, mae cyflogwyr sydd wedi bod yn defnyddio hwn yn meddwl am eu camau nesaf. Yn anffodus, i rai bydd hwn yn golygu dileu swyddi.  Nid yw’r broses ar gyfer dileu swyddi wedi newid oherwydd Coronafeirws, ond mae’r  ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’n gilydd wedi newid. Mae mor bwysig bod cyflogwyr yn cyfathrebu’n agored ac yn onest â gweithwyr  drwy unrhyw broses ymgynghori wrth eu hysbysu am y risg posibl o golli swyddi.

Gyda phellterau cymdeithasol ar waith, bydd yn anodd cyfarfod ac ymgynghori ag unigolion wrth gyfleu’r newyddion am ddiswyddiadau posibl. Dylai cyflogwyr ddefnyddio galwadau ffôn neu fideo ar gyfer cyfarfodydd unigol a, phan fydd grŵp o weithwyr, ymgynghori â nhw gan ddefnyddio cynadledda dros y ffôn neu alwadau fideo grŵp.

Mae’n hanfodol bwysig bod yr holl opsiynau eraill yn cael eu harchwilio’n drylwyr cyn dechrau unrhyw broses ddiswyddo.  Mae ymbellhau cymdeithasol yn ychwanegu elfen arall o gymhlethdod o ran cyflawni ‘ proses ymgynghori ystyrlon a theg ‘ ac osgoi hawliadau am ddiswyddo annheg i’r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Ar hyn o bryd, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu i weithwyr  fel iawndal am Ddiswyddo Annheg yw’r terfyn statudol o £88,519, neu 52 wythnos o gyflog crynswth p’un bynnag sydd isaf. Mae hyn yn ychwanegol at y dyfarniad y gall Tribiwnlys ei orchymyn sef hyd at uchafswm o £16,140. Mae’r ffigurau hyn yn gywir o 6 Ebrill 2020, felly mae’n hollbwysig bod eich diswyddiadau a’r broses ddiswyddo yn cael eu trin yn gywir.

Rhagor o gyngor

Mae gwneud diswyddiadau teg a’r broses ddiswyddo yn gallu bod yn fater cymhleth, ac mae’n bwysig iawn cymryd y mesurau a’r broses iawn i osgoi hawliadau costus i’r Tribiwnlys Cyflogaeth.  I gael rhagor o gyngor a chymorth gydag amrywiaeth o gontractau cyflogaeth, cysylltwch â’n Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.